Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi LLWYD Mae'r holl iaith os marw yw Llwyd ? Nid yw brawddeg ond breuddwyd, A'r niwl oer ar y waun lorn Os trengodd ystyr rhyngom. Duw glân, Tad y goleuni, Dyro'n ôl Dy wawr i ni. Dy galon yw D'ogoniant, E dardd serch yn Dy wraidd sant. Uwch ein clai Dy serch a'n clwm, Iach y cydi uwch codwm. Trig ynom trwy'r gwahanu A thro ein taith i'r un Tŷ. Oedd im frawd heb ddim o frith, Addfwynder oedd ei fendith. Llwyd, Nos da Lledneisied oedd, Goludog a gwyl ydoedd. Ynddo, nodd y winwydden Yn ddilys ewyllys wen Eang a mwyn rhyngom oll, Dygai'r cynhaeaf digoll. Hir dymor yn Rhyd Aman, Bugail oedd, a'i wyneb glân. Gwas da am geisio deall, Arwain llu i rin y llall, I'r cyflawnder ni dderyw, Hwsmonaeth cymdogaeth Duw.