Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UNWAITH YN Y PEDWAR AMSER Unwaith yn y pedwar amser, 'R ôl aros trwy fagddu o wacter, Y dyrchefir llusern I orchfygu'r nos. Unwaith yn y pedwar amser, 'R ôl disgwyl trwy gynhebrwng o ddyddiau, Y cyfyd gŵr Yn drwsgl-frwysg o ganol cyff y glêr I dorri'r gair sy'n creu. Bydd yn ei lygaid olau cloeth y sêr, A Thad pob iaith Rydd eiriau yn ei enau ef. Nid ofna hwn y gwybod A nadda'i ffordd i'r meddwl  llafnau yn ei ddwylo. Unwaith yn y pedwar amser, 'R ôl gwylio'r mwg a'r waliau moel, Daw rhywun o hyd i ddrws O'r cul-de-sac, Adwy i'r bobl gael mudo. GWILYM R. JONES