Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDD AWR LI I lanw'r lli llwyd i'r ffosydd y gofera pob tonnen nes tonni'r symud yng ngwythien fawr dinesig Iorddonen. A chair hap y croesi diberson yn ddiantur ddyddiol wrth ymgolli'n ddiochel ym mywyd môr o biclo beunyddiol. Ond tyr cynghanedd drwy graciau pafin y boreau haenog: cerdd fy hiraeth dros bob carreg lefn sgwâr feddfaenog. Breuddwydio wnaf am rubanau dwr yn chwipio fel ceir bach yn ffair y Rhaeadr Fawr, nes bod y mynd yn sioncach sioncach. A phlymio wnaf i bwll y cerrig llyfn dan dincial sêr y dwr sy'n sgleinio hwyl ei hynt i fôr gwyn-gregyn Aber. Ond oriau IIi sy'n cludo 'maw o gorff i fôr marw o ddyfodol cemegol oherwydd fy ngolchi i o bridd canrif seicolegol. Ac mae fy meddwl brau yn dyheu'n wydn am fyw na chaf mohono'n llifo pridd y byw i bori ffrwyth tir gwaelod braf. EURYS ROWLANDS