Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLANFAELOG Mae golau llwyd Llanfaelog gyda'r hwyr, a'r glaw'n pistyllio'n wyllt o wallt i wegil gan gronni'n byllau sarrug wrth fy nhraed, fel pe bai'n ceisio cuddio rhag y byd ynysoedd y lladron Crigyll, Creigiau'r Parlwr, Craig y Llew, a'r holl arfordir cribog, cras o'r Ynysoedd Gwellt dros hafn Traeth Llydan i'r môr angharedig sy'n fwrn ar gerrig cyntefig Mynydd y Cnwc. Ond rhan annatod o Fôn yw'r golau ansicr. Mae'n lleddfu'r awyr sydd mor ddidangnefedd faith, yr awyr a orwedd fel aden ddiog mor bell dros gywion gwyn y môr. Ambell waith mae'n lliwgar, yn gyforiog o derfysg, neu'n drwm a digalon gan genllysg a glaw, neu'n glir a melynwyn dros feysydd difesur, yn agos a phell yr un pryd, yn cyfarch enfys fel cyfaill cymdogol mae'n awyr wag ac ofnadwy lle mae'r adar yn pererindota dros oriau blinderog heb weld ei therfyn, ac aml hen gwmwl yn cynnal gorymdaith o wacter i wacter yn fynych. Er hyn i gyd, mae7n awyr greulon sydd, och, yn rhy faith, yn rhy faith. Perthyn y golau llwyd i'r awyr faith fel y perthyn gwragedd caredig i ddicter anhyblyg eu gwyr. A Thom yw ceidwad y parthau hyn, crwydryn beunyddiol o'r creigiau i blas Llangwyfan, un â gwaed morladron yn cyrchu gwythiennau ei gorff. Mae stamp yr Iberiaid yn osgo ei gerdded, ac o dro i dro, fel hwythau, gan bwyso ar ei raw neu ddisgyn o sedd ei dractor, mae'n edrych i'r môr mawr fore o Dachwedd; neu'n synfyfyriol fin nos, ar drothwy rhyw fachlud