Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ò SAFFO-CÂN SERCH Teg gan rai yw llu marchogion, Teg gan eraill longau gwynion, Ond tros wyneb daear dirion Tecaf peth anwylyd calon. Gwelodd Elen degwch milfyrdd, Godidogrwydd gwyrda'r gwledydd; Tecach fyth na'r godidoca' Chwalwr uchel enw Troia. Angof mwy y fam a'i carodd, Angof mwy y bychan fagodd Llithiodd Eros serch ei chalon Draw i fynwes cariad estron. Hyblyg fyth yw calon gwragedd Gyfrif gariad hen yn wagedd Na'd fi'n angof, o f'anwylyd, Cofia fi dros lif y foryd. Cans gwell na Lydia a'i holl farchogion, Llu'i cherbydau a'i thwysogion, Clywed hawddgar swn dy droediad, Gweld disgleirdeb mwyn dy lygad. J. E. DANIEL