Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFLAM Trawodd ei harddwch arno fel haul yn gwanu i lygaid un a'u brifo pan gerddo'n sydyn o dywyllwch i lif o olau. Daethai hi o du ôl i'w chownter i estyn bocsys gweigion i griw blêr o blant bywiog a chwerylgar. Mynnai pob un ohonynt gario'r bocs mwyaf. Cofiwch, peidiwch â rhoi bocsys i gang Raymond Jones," meddai un, ac yna allan a hwy'n rhawt, heb ddweud diolch. Ni allai Morgan gofio'n iawn beth a ddywedodd wrtho, eithr arhosodd darlun cyndyn a chlir o'r ferch weddol dal, wallt du a hwnnw wedi'i grychu'n ofalus i ymddangos yn wyllt, yn ei feddwl. Llygaid meddal fel mwyar trwm oedd ganddi, a llusgasant yn araf ar hyd ei wyneb a sefydlu ar ei lygaid ef nes y teimlai ei hun yn cael ei sugno i laid melys o fêl a gwin. Yr oedd ei hwyneb wedi'i drin gyda gofal fel bod ei welwder cyfoethog yn amlygu dwy ael o'r duaf. Yr oedd ei dannedd yn llyfn ddisglair a'i gwefusau wedi'u cochi'n ofalus. Nid oedd un mymryn o'r minlliw'n defn- ynnu dros amlinell y gwefusau. Lliwiasid ei hewinedd â sglein glir, ond sylwodd Morgan fod un gewin a chrac ynddo er ei bod wedi ceisio'i guddio — dyna'i hunig nam. 'Roedd ei gwasg yn fain mewn belt du, llydan, a llifai ei choesau drwy hosannau neilon, syth-eu-cymalau i'w hesgidiau sodlau uchel. Gwefrodd a gwingodd nerfau ei stumog, ac am funud teimlodd Morgan yn wantan. Ond wedi cael ei neges aeth John ac yntau allan. Fe'i gorfododd ei hun i beidio ag edrych yn ôl, ond fe wnaeth ei gyfaill a sylwodd yntau ar fflach ddisglair yn ei lygaid. "Waw meddai hwnnw wedi mynd allan, "Sut fasat ti'n licio hon'na rhyngot ti a'r parad ? 'Roedd ei syfrdandod wedi arafu ymateb Morgan. Teimlai fel petai yng ngafael rhyw addoliant llwyr mewn gwacter mawr, ond atebodd yn araf y byddai'n berffaith fodlon petai'r pared ddim rhyngddo ef a hi. Daliodd i deimlo fel petai wedi'i gloi yn rhywle oddi wrth John, ond dadebrodd yn araf wrth siarad, a thybiodd ci gyfaill fod ei feddwl ymhell ac nad oedd yn dangos diddordeb cymwys yn yr eneth. Gwyddai Morgan ei fod yn hardd i wragedd edrych arno, a theimlai na wrthodai geneth y siop ddod allan gydag ef pe gofynnai iddi. Ond yr oedd yn canlyn yn selog yn barod. Sut bynnag, meddyliodd, merch i fynd allan gyda hi am noson oedd hon. Ceisiodd ei roi ei hun ar lefel rywiol uwch na hi. Er hyn, rheibiai eisiau o'i fewn, a gwyddai y syrthiai pe'i profid. Gwyddai hefyd mai hawdd a fyddai iddo fynd allan o'i ffordd i geisio'r brofed- igaeth. Teimlai'n hynod o wan ei ewyllys. Yr oedd ei hyder arferol yn ei gariad at Gwen yn dadelfennu fel sarff yn dirwyn oddi