Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU Hollgynhwysol yw Cristnogaeth: ateb i J. Gwilym Jones. Da gennyf dderbyn gwahoddiad y golygydd i ateb llith Mr. John Gwilym Jones yn Yr Arloeswr diwethaf. Diau fod y testun yn un digon pwysig i haeddu gwyntylliad pellach, ac wrth ei wyntyllu felly dichon y gwelwn nad yw'r anghytuneb rhyngom yn hollol eithafol. Ond da i ni hefyd fod yn glir am beth 'rym ni'n dadlau. Ac os codwn unrhyw bwynt, nodwn y llinell a'r adnod yn gwbl eglur a phendant. Dywed Mr. Jones: "Onid wyf i'n ei gamddarllen, mae'n rhaid, ebe Bobi Jones, i bob llenor fod yn Gristion." Yn awr, naill ai bu Mr. Jones yn darllen yn esgeulus neu fe fûm innau'n sgrifennu'n esgeulus, oherwydd yn sicr nid dyna fy marn i ac fe fyddwn wrth reswm yn cydsynied â Mr. J. Gwilym Jones i raddau helaeth iawn yn ei sylwadau (mewn tri chwarter o'i lith) am Van Gogh a Phlato, Jeremeia a Williams Parry. Mater o synnwyr cyftredin yw hynny. Eto, wedi cyd-weld gymaint â hynny, beth yw'r agendor rhyngof â Mr. Jones ? 'Rwy'n rhyw dybied ein bod yn ei chael yn ein diffiniad o Gristnogaeth. Dywed Mr. Jones: "Chwarae ag ystyr y gair yw ei wneud yn amod llenyddiaeth." Cytuno. Wedi'r cwbl dyn sy'n credu fod Iesu Grist wedi ei eni'n wyrthiol o forwyn, wedi marw ar Galfaria dros bechodau'r byd ac wedi atgyfodi i eiriol drosto yw'r Cristion." Dyna'r diffiniad; ac o safbwynt llenyddol mae'n ymddangos yn weddol, ddiniwed, ar wahân i'r marw dros bechodau'r byd." Ond a gaf i ychwanegu un pwynt o leiaf a ystyriaf yn bwysig yn yr achos yma ?- Y mae Cristion hefyd yn cyfrif fod Duw'n hollalluog ac yn hollbresennol. Hynny yw, 'does dim un cylch o fywyd y tu allan i'w lywod- raeth Ef; dim un byd o werthoedd-gan Fiwsig, gan besimistiaeth, gan ddim-nad oes iddynt ystyr a phwrpas y tu mewn i'w oruch- wyliaeth hollgynhwysol Ef. 'Does dim modd dyfeisio unrhyw werthoedd esthetig nac arall sydd heb fod naill ai'n Gristnogol neu'n wrth-Gristnogol. Dyma ffaith. Ac ar y ffaith hon y mae'n bosib fy mod i a Mr. J. Gwilym Jones yn anghytuno. Yn awr, y mae holl ymhlygion y ffaith hon yn anhraethol. Nid wyf yn y fan yma am grybwyll mwy nag un, sef Pesimistiaeth. Ceisiais yn I'r Arch feirniadu Pesimistiaeth o safbwynt Cristnogol, a deuthum i'r casgliad fod Pesimistiaeth yn Anghristnogol,-heblaw bod yn afresymol. Nid yw Mr. Jones yn anghytuno. Hwyrach