Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARLUNIO George Chapman Anaml y gwelir darlun a dylanwad Cymreig amlwg ar ei gyfansoddiad yn arddangosfeydd Llundain. Gwelir gwaith Ceri Richards yno'n rheolaidd a bu Brenda Chamberlain yn arddangos yn Oriel Gimpel, ond ar y cyfan bychan o gyfraniad a wnaeth arlunwyr Cymru i arddangosfeydd y brifddinas. Nid condemnio na chanmol yr wyf wrth ddweud hyn, ond yn hytrach nodi a chroniclo ffaith. Syndod pleserus imi, felly, oedd sylwi ar ddarlun mawr olew o waith George Chapman yn ffenestr Oriel Zwemmer ychydig fisoedd yn ôl. Yn yr oriel hon ym mis Mawrth cynhaliodd Chapman ei arddangosfa gyntaf yn Llundain. Mae'n wir nad yw'r arlunydd yn Gymro, ond yn ne Cymru y symbylwyd ef i beintio holl luniau'r arddangosfa hon. Ganed Chapman yn Llundain ym 1908. Treuliodd rai blyn- yddoedd yn porthi'r fasnach hysbysebu cyn ymroi i astudio peintio yn Ysgol Slade ac yna yn y Coleg Brenhinol. Arddangosid ei waith yn rheolaidd yn orielau Llundain rhwng 1943 a 1957, ac yna digwyddodd i Chapman ymweld â Chwm Rhondda. Yno profodd ef rywbeth a roes bwrpas newydd i'w holl ymdrechion. Gwelwyd ffrwyth y profi hwn yn Oriel Piccadilly ac Oriel Trafford, ac mewn arddangosfa yng Nghaergrawnt y llynedd. Ym 1957, hefyd, enillodd George Chapman y Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac o hynny ymlaen cymerwyd diddordeb arbennig yn ei waith gan Adran Gymreig y Cyngor Celfyddyd a chan y Gymdeithas Arlunio Cyfoes. Cafodd yr un gydnabyddiaeth ag arlunydd o Gymro. Y mae Chapman ei hun yn falch o hynny. Gallwn ninnau ymfalchio ynddo yntau am iddo wneud cyfraniad arbennig iawn i ddatblygiad arluniaeth Gymreig. Yn rhifyn Gaeaf 1959 o'r Arloeswr ceisiais ymdrin â'r vmdrech sy'n rhan hanfodol o bob creadigaeth artistig o bwys. Ymdr'ech yw'r thema sy'n gyffredin i holl weithiau George Chapman. Gwaith yr artist yw cyfleu ei weledigaeth arbennig o fywyd, ac wrth wneud hynny ni all ef, os yw'n onest ag ef ei hun, osgoi'r ymdrech a'r ymrafael sy'n sylfaenol i fywyd. Y mae elfen drasig ymhob comedi, ac awgrym o hylltra yn narluniau lliwgar Van Gogh. Barddoniaeth mewn lliw yw darlun ac nid yw gweled- igaeth y bardd yn gyflawn onid yw'n cynnwys y da a'r drwg, yr ar ddiwrnod o haf, llai fyth brydferthwch yng Nghwm Rhondda ar ddiwrnod glawog diflas. Yr artist sy'n llenwi'r bwlch yn ein hardd a'r hyll yn ei waith. Nid pawb a wêl hylltra ym Mro Gŵyr profiad.