Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Robert Hunter Mae cyfraniad dynion dwad' i arluniaeth gyfoes Cymru yn helaeth. Daeth rhai, fel Sutherland a Piper, ar daith beintio fer yn unig eraill fel Herman a Koppel, i aros dros dro ac eraill eto i wneud eu cartref yng Nghymru. Un o'r rhai olaf hyn yw Robert Hunter. Fe aned Hunter yn Lerpwl ym 1920. 'Roedd ei dad, fel tad Paul Klee yntau, yn gerddor. Fel llawer o'i gyfoeswyr, fe ddryswyd gyrfa Hunter gan y rhyfel; treuliodd saith mlynedd yn y fyddin ac o ganlyniad, 'roedd yn chwech ar hugain oed cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg y Celfyddydau yn Lerpwl. Ar ôl gorffen ei gwrs, bu am gyfnod yn athro yn Blackpool ac yna, ym 1952, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caer- fyrddin. Ymsefydlodd mewn fflat, uwchben y Dr. Jac L. Williams ym Mhlas Ystrad, a chanddi ffenestr yn edrych dros Ystrad Tywi, ffatri'r 'Cow and Gate,' tref Caerfyrddin a bryniau Sir Gâr yn codi yn y pellter. Fe syfrdanwyd Hunter gan yr olygfa hon. Un o'r dref ydoedd a'i fyd cyn hyn wedi ei gau i mewn gan adeiladau ni bu'r wybren agored yn rhan o'i brofiad. Ond yn awr agorodd Sir Gaerfyrddin o'i flaen fel map patrymau newydd, lliwiau a pherth- nasau IIiw newydd, a phrofiad newydd o ofod. Cafodd yr olygfa o'i ffenestr yr un effaith ar Hunter ag effaith sinerama ar un wedi arfer â sgrîn fach y teledu. Synnodd hefyd at gyfaniad golygfa De Cymru gwnai'r adeiladau batrwm hynod ond, serch hynny, 'roeddynt yn ymddangos fel be baent wedi tyfu o'r tir 'roedd hyd yn oed olion diwydiant, — y gweithfeydd, y chwareli a'r pyllau glo-yn ymdoddi i'w cefndir. Ymhellach, gwelodd batrwm y macrocosm yn y meicrocosm mewn darn o glawdd, neu ym mhatrwm planhigion mewn ffos. A theimlai Hunter, ychydig yn rhamantaidd efallai, fod atsain patrymau'r olygfa yn swn y Gym- raeg a glywai o'i gwmpas. 'Roedd popeth yn Ne Cymru yn gwneud synnwyr iddo ef fel arlunydd. Mewn byr amser aeth ati i ddadansoddi'r olygfa a'i throi yn batrymau haniaethol llinynnol wedi eu dal mewn amlinell o beil- onau, polion teligraff a choed. Mewn cyfres arall 0 luniau, ceisiodd ddehongli'r mân batrymau a welai yn y cloddiau a'r ffosydd o'i gwmpas. Cafodd un o'r lluniau hyn, Poem in a Wall, le yn yr arddangosfa bwysig o waith artistiaid ifainc a gynhaliwyd gan y Daily Express (o bawb) yn Llundain ym 1955. Cynhwys- wyd un arall, Poeni in a Wood, yn llyfr Jack Beddows, Young Artists of Promise a gyhoeddwyd ym 1957.