Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERFLUNIAETH Rhyfelwr yn Syrthio — Henry Moore. (Cerflun a arddangosuyd yn</ ngho.'cy Y Brifysgol ym Mangor yr haf hwn). Mae'r Rhyfelwr yn Syrthio yn anghyffredin ymysg gweithiau Henry Moore, yn bennaf am mai'r corff gwrywaidd yw ei destun. Wrth gwrs, nid yw'n anghyffredin i'r artist a fyn gyfleu'r corff dynol ganolbwyntio ei sylw ar y fenyw. Onid dyna'r arfer yn gynyddol oddi ar ddyddiau Michleangelo, wrth gyfleu'r corff noeth beth bynnag? Ar yr un pryd, y mae'n rhyfedd rhywsut gweld y datblygiad hwn ar glasuriaeth Ewropeaidd yn goroesi'r chwyldro yn erbyn clasuriaeth. Ond goroesi a wnaeth. Merch ar ei heistedd,' Merch mewn cadair freichiau,' Merch wrth ffenestr' neu Dair Merch' yw rhai o deitlau mwyaf cyson Picasso yr odalisque, sef caethferch mewn harem, yw thema ganolog gwaith Matisse. Y mae Moore, felly, wrth ganolbwyntio ei sylw ar y ferch yn cadw at brif ffrwd celfyddyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed. Er hynny y mae'n drawiadol mor llwyr yr ymwrthod- odd â'r corff gwrywaidd. Benywaidd yw llawer o'i weithiau haniaethol, hyd yn oed. Gweithiau arwyddocaol cynharaf Moore â'r corff gwrywaidd yn destun iddynt yw dau luniad (drawing) a wnaeth ym 1937, i'll dau'n bortreadu o Stephen Spender. Mae testun y lluniadau hyn mor ddieithr i faes creadigol Moore â'r Chwyldro yn Ffrainc i briod faes Dickens. Yn un peth, sôn am ddyn y maent; yn ychwanegol, portreadau ydynt. Yn awr y mae portread bron o raid yn golygu delwedd wedi ei thynnu'n syth o fywyd, ac nid dyna ddull Moore o weithio. Mae rhai o'i luniadau cynnar o ferched yn eistedd, yn rymus mae'n wir; ond ymddengys fod y rhelyw o'i luniadau a'r cwbl o'i gerfluniau ef yn dod i'r amlwg fel delweddau cyflawn wedi eu geni a'u trawsnewid a'u datblygu a'u haeddfedu yn ei isymwyb- yddiaeth, yn greëdig barod i'w ddwylo ef roi iddynt ffurf ar bapur neu eu mowldio'n fodelau plastr bychain. (Gyda'r cerfluniau, helaethiad o'r model bychan-fydd y gwaith gorffenedig). Yr un yw ei ddull o weithio ag eiddo Mozart yn ysgrifennu nodiant agorawd 'Don Giovanni.' Mae'r portread yn ddieithr i faes creadigol Moore am reswm arall hefyd. O reidrwydd delwedd neilltuol yw delwedd portread delwedd o berson neilltuol ar adeg neilltuol ar ei fywyd. Ond delweddau rhywogaethol yw delweddau Moore. Trafod themâu mawr a sylfaenol bodolaeth a pharhad yr hil y bydd ef.