Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU FORMAL POEMS, Anthony Conran (Christopher Davies Ltd., Llandybie. 7/6). Casgliad o farddoniaeth Saesneg yw hwn a enillodd i'w awdur ddwy flynedd yn ôl wobr Pwyllgor Cymreig Cyngor y Celfydd- ydau. Y mae'n gasgliad sy'n sicr yn teilyngu sylw yn Yr Arloeswr oherwydd bardd yw Anthony Conran sy'n Gymro o fabwysiad ac yn gynnyrch dewisol un o golegau'n Prifysgol. Mwy na hynny, dengys y cerddi oll ei fod wedi ei drwytho yn y traddodiad barddol Cymraeg. Awgryma teitl ei lyfr ei fod yn ymdeimlo â swydd gymdeithasol bendant i farddoniaeth, a dengys llawer o'r cerddi eu hunain, yn enwedig yr adran gyntaf sy'n cynnwys 'For the Marriage of Heulwen Evans' ac Elegiac Ode for R. Williams Parry,' mai'r un ystyr foliannus a rydd Conran i'r swydd honno ag a roddwyd iddi gynt yng Nghymru. Heblaw hyn, y mae'n amlwg fod gan y bardd hwn ddiddordeb deallus yn y fydryddiaeth draddodiadol Gymraeg. Nid bod Conran yn ceisio cyfaddasu'r cynganeddion yn amlwg iawn i'r Saesneg, fel y ceisiai Gerald Manley Hopkins wneud, ond llwydda'n rhyfeddol i ail-greu yn Saesneg rai o'r mesurau cynganeddol. Ni wn am neb sydd wedi dal ^naws englyn a chywydd a thoddaid yn Saesneg gystal â Chonran. Ond y mae Anthony Conran, mi dybiaf, yn llawer mwy nag arbrofwr medrus mewn modd a mater a phrydydd sy'n sicr iawn o'i grefft. Petai gofod yn caniatau, buasai'n bleser dangos ei fod hefyd yn wr o hydeimledd arbennig iawn sy'n fawr ei ofal a'i boen am argyfwng dyn heddiw'n gyffredinol ac yn y Gymru gyfoes yn enwedig. Er nad yw bob amser efallai yn llefaru a'i union lais priod ei hun, y mae ei arddull a'i eirfa'n gyhyrog a byw, a'i sylwadaeth yn ffres a threiddgar. Bydd yn syn gennyf oni chlywn lawer am Anthony Conran yn y dyfodol. Credaf fod ganddo lawer mwy i'w ddweud wrthym na'r hyn y mae wedi ei gynnwys yn y casgliad cyntaf hwn, a bod ganddo gyfraniad nodedig i'w roi i farddoniaeth Saesneg ac i farddoniaeth yng Nghymru. Buaswn yn falch iawn o weld cyhoeddi cystal cyfrol gyntaf â hon gan un o gyfoedion Conran ymysg y Cymry Cymraeg. ALUN LLYWELYN-WILLIAMS.