Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TIPYN O ANNWYD, Wil Cwch Angau (Gwasg Gee, 6/-). Mor wahanol yw 'sgwennu'r gŵr hwn i gysylliadau ei ffugenw Y mae ei Gymraeg yn iaith fyw, a derbyniol. Wrth ymwrthod â hualau ysgrifennu llenyddol ymwybodol, fe greodd ryddiaith sydd yn haeddu'r enw llenyddiaeth.' Llwyddodd yr awdur i greu byd hunangynhaliol, cyfan ac yr ydym ninnau ar ôl arfer â'r eirfa yn derbyn y byd hwnnw ac yn cydymddwyn â'i gymeriadau Steinbeck- aidd. Yr un yw cefndir Tipyn o Annwyd â chefndir Cannary Row Steinbeck. Twr o gyfeillion brwd yn casau gwaith, yn caru gor- weddian ac yfed, ac eto'n anesboniadwy onest tuag at ei gilydd- dyna'r cymeriadau. Maent yn eu mwynhau eu hunain yn ymweld â rhodfa glan y môr a Bwtri'r Twrci Brâs a rasus ceffylau, yn mynd am wyiiau o chwe awr mewn hen gar, a photsio mewn cwch hyn. Arwr y llyfr yw 'Hybarch,' a phrit gamp a gwobr hwn yw iddo ennill serch Miss Pegi Vaughan, merch siapus gyfoethog. Y mae anturiaethau Hybarch yn sicr o ddal diddordeb y darllenwr, ac fe ddaw yn gymaint ffefryn ymysg y Cymry ag yw Mac' Steinbeck neu Jeeves' Wodehouse gan y Saeson. Yma ac acw daw elfen ddychanol i'r amlwg. Ar dudalen 104, disgrifir cyfarfod mabwysiadu ymgeisydd am le ar y cyngor lIeol-cyfte i'r awdur i ddychanu geiriau cydnabyddiedig-addas siaradwr cyhoeddus Yr wyf yn gwylaidd ymgynnig yn ymgeisydd am y sedd wag ar y cyngor lleol a achoswyd gan ymddiswyddiad dirybudd ein cymydog parchus ac annwyl — Mr. George Beth yw ei enw e' hefyd ? Daw'r colyn cyn diwedd y paragraff Yr wyf yn gryf o'r farn nad oes lle i bleidiau politicaidd na chrefyddol mewn etholiad lleol. Ac y mae'n dda gennyf gyhoeddi fy mod yn cael cefnogaeth gan Sosialwyr, Torïaid, Cymdeithas y Mamau Dibriod, a hyd yn oed gan Genedlaetholwyr, (cyfeirio yr wyf, wrth gwrs, at Jerzy Chrzaszczewski, Yswain, ein cymydog pybyr o Poland Fe gwynir yn fynych fod llyfrau Cymraeg diddorol a blasus yn brin. Pleser yw cymeradwyo llyfr y mae'n bleser ei ddarllen, a llyfr sydd hefyd yn rhywbeth amgen na rhyw frith drosiad neu barodi o straeon gwaelaf yr wythnosolion Saesneg. GERAINT WYN JONES