Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMPLOYMENT AND UNEMPLOYMENT IN NORTH WEST WALES, Silvan Jones a Geoffrey P. Smith (Adran Economeg, Coleg y Rrifysgol, Bangor, 5/-). Y mae cyfartaledd y diwaith yng ngogledd-orllewin Cymru lawer yn uwch nag yn y gweddill o Brydain y mae'r prinder gwaith yn achosi diboblogi oni bai am ymfudo parhaus y bobl ifanc o'r ardal byddai'r diweithdra lawer yn waeth pennaf achos y diweithdra a'r diboblogi yw dirywiad diwydiannau traddodiadol yr ardal-y diwydiant llechi yn arbennig; y mae effeithiau hyn i gyd ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol Gwynedd yn drych- inebus. Dyna, yn fras, y darlun arferol o gyflwr Gwynedd heddiw. Dengys adroddiad Silvan Jones a Geoffrey P. Smith, fodd bynnag, fod y darlun poblogaidd' hwn yn anghywir ar lawer cyfrif. Darlithwyr yn adran economeg coleg y brifysgol ym Mangor yw'r awduron, ac yn eu hadroddiad cyflwynant ddisgrifiad ffeithiol o gyflwr economaidd Môn, Arfon, rhan helaeth o Feirionn- ydd, gorllewin Dinbych a rhan fechan o Sir Fflint. Mae'n wir na cheir ganddynt unrhyw ymdriniaeth ag arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol y ffeithiau a gyflwynant, ond y mae'r ffeithiau eu hunain yn hawlio sylw pawb sy'n ymddiddori o ddifrif mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mae'n wir fod cyfartaledd y diwaith yng ngogledd-orllewin Cymru yn uchel. Yn hynny o beth y mae'r darlun arferol yn gywir. Yn ystod y pumdegau yr oedd cyfartaledd y diwaith yn yr ardal bron deirgwaith yn uwch na'r cyfartaledd yn Lloegr a Chymru gyda'i gilydd, ac mewn rhai rhannau o'r ardal, fel Sir Fôn, yr oedd y gwahaniaeth yn fwy amlwg hyd yn oed na hynny. Ar yr un pryd, cyfeiliornus hollol yw tybio bod Gwynedd yn colli ei phoblogaeth. Y gwir yw i'w phoblogaeth gynyddu bron ugain mil rhwng cyfrifiadau 1931 a 1951. Ac y mae'r cynnydd hwnnw'n parhau. Nid oes ychwaith unrhyw dystiolaeth union- gyrchol, yn ôl yr adroddiad, i ddangos bod pobl ifanc yn ymfudo o'r ardal ar raddfa eang. Cyfeiliornus hefyd yw honni mai dirywiad y diwydiant llechi sy'n cyfrif am y diweithdra yng Ngwynedd yn ystod y pumdegau. Syniad henffasiwn bellach yw tybio bod Gwynedd yn dibynnu ar lechi. Ddiwedd y ganrif ddiwethaf cyflogid un mil ar bymtheg o ddynion yn chwareli'r gogledd, ond erbyn 195 1 ychydig dros bedair mil yn unig a gâi fywoliaeth o'r diwydiant llechi. Yr oedd y diwydiant wedi dirywio cyn y pumdegau, a'r chwareli o ganlyniad yn elfen gymharol ddibwys ym mywyd economaidd yr ardal