Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFLWYNO M. E. Cooke: Darlithydd mewn Hanes Arluniaeth yn yr adran Hanes ym Mangor. Yn ei gartref uwchben y Fenai mae ganddo nifer o gerfluniau Henry Moore a chawg o waith Picasso. Yn ddiweddar prynodd gerflun Moore o'r Rhyfelwr yn Syrthio. J. E. Daniel: Yr arolygydd ysgolion o Fodfari. Geraint Stanley Jones: Trefnydd busnes ymroddgar Yr Arloeswr. Wedi graddio yn y Gymraeg ym Mangor, bu am gyfnod yn y fyddin. Bellach mae newydd ddechrau gweithio yn stiwdio'r B.B.C. yn Abertawe. Ysgrifennodd yn gyson i'r Arloeswr ar arlunio yng Nghymru. Geraint Wyn Jones: O Flaenau Ffestiniog a thiwtor yng ngholeg Harlech. Enillodd ddosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mangor eleni. Meirwen Gwynn Jones: Yr un â Meinven Lewis y cyhoeddwyd ei gwaith yn Yr Arloeswr o'r blaen. O ysgol Abergwaun aeth i Aberystwyth i astudio Cymraeg. Hi oedd Prif Lenor yr Urdd yn Rhydaman ym 1957. Wedi priodi bu'n byw ym Meirionnydd, ond mae ar fin symud yn awr í Gaerdydd. Gobeìthia rywdro ddatblygu thema' Yr Adwy' yn nofel. Gwyn Thomas: Un arall 0 lenorion ifanc Blaenau Ffestiniog. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mangor ac ar hyn o bryd mae'n gwneud gwaith ymchwil yng Ngholeg Iesu, Rhyd- ychen. Ymddangosodd cerddi ac adolygiadau a stori o'i waith yn Yr Arloeswr o'r blaen. Roy Thomas: O Ysgol y Friars, Bangor aeth i Rydychen i Goleg Iesu. Yno enillodd ddosbarth cyntaf mewn economeg a gwleidyddiaeth ac mae'n ymchwilio yn awr. Fel aelod amlwg o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym mae ganddo ddiddordeb dwfn ym mhroblemau economaidd Cymru. J. R. Webster: O Sir Fôn. Astudiodd ddaearyddiaeth yn Aber- ystwyth ac mae'n awr yn ddarlithydd yn adran Addysg Coleg Abertawe.