Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lludw i'r Lludw Gan RHYDWEN WILLIAMS. "O rho Dy law i'r ieuanc sydd Yn colli'r ffordd ar ganol dydd <rYn gymmaint a rhyngu bodd i'r Gor- uchaf Dduw GWYDDAI'R Bachgen fod y tipiau- slag yn y pellter, ond ni fynnai 'edrych arnynt. Taflai'r haul cryf eu cysgodion hwy, bronnau negroaidd, ar draws ei lwybr, ond bwriodd y Bachgen ei ben hirwallt í ganol tresi hwy yr eithin a'r rhedyn. Pan ddôi'r awel trwyddynt yr oedd wrth ei fodd: teimlai fel un a brawf anadl nwydus câr yn ei anwylo; âi'n nwydus ei hunan yn yr anwes. Ieuanc a merchetaidd oedd ý ddaear oddi tano; gor- weddai arni yn ei bleser, a gwybu ei baich a'i gwres yn ei wylltu. Ond yr oedd ysbïwr gerllaw, yr haul; deuai'r afradlon hwnnw yn fileinig bob hyn a hyn i bryfocio a thorri'r hud. Gildiai'r Bachgen yn aflonydd bryd byn- nag i wynebu anferthedd hagr y cysgod- ion. Yna, edrychai oddi wrthynt ar y sylwedd pell, y tipiau, a gwelodd oddi- tano gylch noeth y pwll, croth segur nas caewyd ar ôl y gwewyr a'r gwaedu a'r esgor. Tristaodd. Dychwelodd i orwedd ar ei hyd, ei gefn y tro hwn ar lunwedd y ddaear, a chododd ei ben ychydig, fel y gallai edrych ar ei noethni ei hun. Dotiodd ar y campwaith a roes ei rieni iddo, ei gorff; telyn ydoedd, a'i distawrwydd yn aria gwefreiddiol o íyd gwawn breuddwydion. Toc, daeth enw i'w feddwl, fel y daw cloch-y-dwfr o bibell glai; a thu fewn i fyd brau yr enw, gwelai Morfudd yn sef- yll yn noeth ger ei fron. "Tyrd yma!" perswadiodd." Gwêl! Yr wyf innau yn noeth." Ond ni ddywedodd Morfudd air yn ôl, dim ond syllu'n drist arno. A chaf- odd y Bachgen, pan aeth yn agos at ei gariad, bod ei bronnau hithau'n negro- aidd; dau dip-slag oeddynt yn hongian eu hacrwch ar ei morwyndod hi. Syllodd yn hir fel un a welsai ddemon ei wallgof- rwydd tu fewn i leuad lawn; syllodd yn rhy hir a rhy agos; syllodd nes torri'r dar- lun. "Dyma greulon!" meddai'n ofidus, "mor greulon ar ôl i minnau ddyheu çyhyd i weld Morfudd yn noeth! Mor greulon, a minnau'n barod i'w derbyn, ar dân i'w chofleidio! Ac eto, fe all mai da oedd nad oedd 1m ond rhith, pictiwr mewn ffram, syniad. Ni chawn faeth i'm plant, pe deuai plant, o'r bronnau briw o bridd Morfudd! Morfudd! Morfudd!" Ond ni allai ddenu'r forwyn noeth yn ôl Mewn eiliad yr oedd cloch-y-dwfr arall yn symud yn esmwyth-araf yn ei feddwl. Enudd! Gwelai hi tu fewn i'r ffrâm gwawn; deuai yn nes, yn nes, ac