Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Eglwysi a'r Gymraeg Gan TREBOR LLOYD EVANS. (Goddefed y darllenydd gryn lawer o'r nodyn personol yn hyn o ysgrif, oher- wydd hoffwn ei seilio ar ffrwyth profiad) BÛM yn weinidog am ddeuddeng mlyn- edd mewn pentref ac ardal hollol Gymireág a Chymraeg yn Sir Gaernarfon, Penygroes, Dyffryn Nantlle, lle nad yw'r Gymraeg yn 'broblem' o gwbl. Pan ddaeth y noddédigion yno o Lerpwl yn ystod y rhyfel, buan y dysgasant Gym- raeg ac ymdoddi'n nairuriol i fywyd y cap- el. Tramgwydd i'r gwrandawyr fyddai defnyddio amibe! air Saesneg, a dyfyniad- au Saesneg, ym mhulpud Penygroes, a gaUai'r pregethfwr fforddio ceisio mynegi ei feddwl yn yr iaith goethaf, a chael ei werthfawrogi am ei Gymraeg yn ogystal ag am yr hyn a geisiai ei ddweud. (Dichon y byddai ei Gymraeg yn llawer gwell na'i bregeth!) Da fyddai cofio, rhag digalonni ohon- om yn Uwyr, fod ardaloedd lawer o'r fath yng Nghymru o hyd, ardaloedd lle nad oes raid i'r Fflam ymboeni ynghylch yr iaith Gymraeg am ei bod hi ar yr allorau. Symudais i waelod Cwm Tawe yn Sir Forgannwg, ac yma, yn Nhreforus, y mae'r iaith Gymraeg yn broblem ddwys a gwirioneddol iawn. Nid oes dri y cant o'r plant sy'n perthyn i'r capel Cymraeg yn siarad Cymraeg yn feunyddiol â'i gilydd ac â'u rhieni. Y mae'r rhan fwyaf ohon- ynt yn deall rhyw fath o Gymraeg, geir- iau a brawddegau syml gyda llawer o eir- iaii' Saesneg yn gymysg. Tuedd naturiol pöbl mewn oed, sy'n gallu siarad Cym- raeg, yw siarad Saesneg â phlant hyd yn oed pan wyddanft, ped ystyrient, fod y plant hynny yn gallu deall a siarad Cym- raeg. Gwn am lawer aelwyd lle mae'r drydedd genhedlaeth yn ôl yn Gymry da, y tad a'r fam yn Gymry purion, ond y ddwy genhedlaeth yn siarad Saesneg â'r plentyn sydd ar yr aelwyd cyn i'r plentyn hwnnw fynd i'r ysgol bob dydd hyd yn oed. Aeth plant llawer aelwyd a oedd gynt yn Gymreig yn gwbl Seisnig eu iaith a'u ffordd o edrych ar bethau, gyda'r can- lyniad, fe'u collwyd yn gyfangwbl o'r eg- lwys Gymraeg. Erys erailâ ryw hanner a hanner, a'u trafod hwy yw tasg anodd y pregethwr a'r athro yn yr eglwys Gym- raeg heddiw. "Give us a few words in English, so that we can follow you," yw llef llawer un o dan y deg ar hugain oed. "A fyddwch cystal a rhoddi anerchiad byr i'r plant am 10 munud yn Saesneg, bore Sul nesaf," yw'r cais yn fynych o lawer eglwys. Ar y llaw araíll cyfyd ael- od o'r Blaid Genedlaethol ei brotest, "Dim un sill yn Saesneg o bupud yr eglwys hon!" Deallaf mai gwaeth yw'r sefyllfa i'r dwyrain o Gwm Tawe, a rhywfaint gwell i'r gorüewin. Nid oes lawer o ddiben mewn ceisio penderfynu pa faint o fai a ddylid ei osod ar yr eglwysi am ddirywiad yr iaith Gym- raeg. Os goddefir trosi dihareb Saesneg, llefain uwchben llaeth wedi ei golli yw hynny bellach. Y mae'n amlwg iddynt hwythau ddioddef oddi wrth yr un clefyd ag a gafodd cylchoedd addysgol a chym- deithasol dros drigaán mlynedd yn ôl bellach a chael eu meddiannu gan y meddwl hwnnw a oedd yn y Prifathro T. C. Edwards tua 1884, mai iaith i farw oedd yr iaith Gymraeg, ac mai Saesneg