Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hanes bodau oer, dideimlad fel stêm rol- ars. Ond dyna hanes bywyd onide? Hen bryfoc a fu ef erioed. Gwelais enghraifft o'i sbeit y dydd o'r blaen pan edrychais ar enw cydnabod ar glawr rhes o lyfrau a osodwyd ar stondin y tu allan i ffenestr siop llyfrau-ail-law. Rhyfeddais lawer at hunanfeddiant a hunanhyder y gŵr hwnnw o dro i dro. Bron na fûm yn euog o genfigennu wrtho weithiau rhag mor feistraidd ydoedd ei bersonoliaeth. Credais ei eni i arglwydd- iaethu a thra-awdurdodi ar bawb o'i gwm- pas. Gresyn iddo dorri ei enw ar glor- iau'r llyfrau a welais y dydd o'r blaen a gadael i betheuach o'r fath ei fradychu wedi iddo gau ei lygaid. Diau i'r siopwr eu prynu mewn sêl am swllt neu ddau, ac fe'u gosododd â'u talcennau i'r stryd o flaen ffenestr ei siop gan ddisgwyl iddynt dynnu sylw atynt eu hunain. Ond galw sylw at eu cyn-berchenog a wnâi pob un. Yr oedd gwawd, a dychan a sbeit yn llyth- rennau aur eu teitlau- "How to be a forceful personality," "How to conquer Mae bwthyn to gwellt rhwng ceulannau'r cwm, A ffenestr fach yn ei dalcen llwm. Yno mae tymor yn mynd ac yn dod A'i ddannedd gafaelgar yn troi y Rhod. Daw lili wen fach, daw cochliw ar ros, Daw eiliad a munud, daw dydd a nos. Ť Mae ceulannau'r cwm yn aros o hyd, Ond heddiw mae'r bwthyn yn ffenestr i gyd. Aberdâr. Inferiority," "On being a Master Man." Dyna nhw eto-y ffordd fawr a chytir y chwarel gerrig, Asyn Chesterton yn codi ei glustiau. Hen bryfoc ydyw bywyd. Fe wn y digwydd yr un peth yn fy hanes innau rywdro. Testun gwawd a fu'r lleuad i mi erioed. Dirmygais ei llewych benthyg, ei gwên oerllyd a'r gwallgofrwydd pendrwm a'i Ueinw bob mis. Medrais ei hanwybyddu a theimlo fy mod yn bwysicach na hi er meithed ei hoes. Cefais fwynhad diledryw hefyd wrth dra-arglwyddiaethu ar bethau a oedd wrth natur islaw fy sylw — pethau megis gweryd a phryfetach a gwrachod lludw- pethau y cefais ryw fodlonrwydd cyfrin wrth eu sathru dan fy nhraed a'u llwyr ddinistrio. Ond gwn erbyn hyn mai gan y pethau a ddirmygais y mae'r fuddugol- iaeth. Daw eu hawr hwythau a'r adeg honno hwy fydd yn chwerthin a gwawdio a dirmygu. Teulu'r chwarel a'r ffordd fawr yw'r meistri wedi'r cwbl. Hwynt- hwy a gaiff wylio'r stêm rolar yn rhydu. ^AROS MAFR. D. JACOB DAFIS.