Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Niebuhr a Phasiffistiaeth Gan HARRI WILLIAMS. REINHOLD NIEBUHR* yw un o ddiwinyddioii Protestannaidd gallu- ocaf ein dydd, a'i ddylanwad yn anrlwg ar feddylwyr yn yr Amerig ac yn Ewrop. Cydnabyddir eu dyled iddo hyd yn oed gan ysgrifenwyr ar bynciau gwleidyddol, fel E. H. Carr, a F. A. Voigt; ond o ran hynny, ceidw Niebuhr yn ei ddiwinydd- iaeth ei olwg yn barhaus ar broblemau cymdeithas, a chais gymhwyso ei ddiwin- yddiaeth at y problemau hynny. Eddyí yn wir fod sefyllfa cymdeithas a byd yn dylanwadu ar ei ddaliadau diwinyddol- yn ei yrru, ys dywed, i'r chwith mewn gwleidyddiaeth ac i'r dde mewn diwinydd- iaeth. Tybir yn gyffredinol fod syniadau Niebuhr yn elyniaethus i basiffistiaeth. Fy amcan yn yr ysgrif hon fydd ceisio dangos nad oes sail i'r dyb hon, eithr fod lle i basiffistiaeth yn ffrâm feddyliol Niebuhr, a bod ganddo bethau pwysig i'w dweud am swydd yr heddychwr a'i gymwynas i gymdeithas. Rhaid dechrau gyda syniad Niebuhr am ddyn, oherwydd dyna sail ei holl ddysgeidiaeth gymdeithasol. Pechadur yw dyn, medd Niebuhr, ac nid yw byth, tra bo ar y ddaear hon, yn peidio â bod *Reinhold Niebuhr (seinier 'Reinholt N'ibwr'). Ganwyd yn America yn 1892, yn fab i weinidog Efengylaidd o Almaenwr. 1915: gweinidog ar eglwys Bethel yn Detroit. 1928: athro ar foeseg Gristnogol yng ngholeg 'Union Seminary,' Efrog Newydd. Hedd- iw y mae'n un o feddylwyr amlycaf yr Eglwys. Yr oedd yn heddychwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Teitl un o'i lyfrau yw: "Paham nad Pasiffist mo'r Eglwys Grist- nogol"? I. yn bechadur. Hyd yn oed wedi ei achub erys yn bechadur. Mewn termau diwin- yddol: cyfiawnheir dyn trwy ffydd, ond nis sancteiddir yn llwyr ar y ddaear hon; proses araf yw'r sancteiddhad, nas gorff- ennir yn y byd hwn. Cred Niebuhr mai cyfraniad pwysicai Protestaniaeth i fedd- wl Ewrop ydywr'r pwyslais yma ar barhad pechod fel grym ym mywyd y rhai a ach- ubwyd, ac ar anaHu dyn i gyrraedd per- ffeithrwydd ac anffaeledigrwydd yn y byd hwn. Arwydd o falchder a hunangyf- iawnder ydyw i ddyn honni ei fod yn ddi- bechod, neu honni bod unrhyw sefydliad o'i eiddo'n anffaeledig. Yn enw'r gred yma ym mhechadurusrwydd popeth dynol y "protestiodd" Luther yn erbyn honiad- au Eglwys Rufain, ei bod yn anffaeledig, ac yn enw'r un gred protestia Niebuhr heddiw yn erbyn honiadau tebyg gan eg- Iwys, gwladwriaeth, dosbarth, neu blaid. Cred mai anallu i sylweddoli eu ffael- edigrwydd eu hunain a yrr ddynion i an- oddefgarwch tuag at ei gilydd. Nid yw'n bosibl i ddynion adnabod y gwirionedd yn berffaith, ac ni ddylent honni (fel y gof- ynnir iddynt honni ar adegau!) eu bod yn gwybod y gwir, yr holl wir, a'r gwir yn unig. Gan hynny, dylent barchu syniad- au ei gilydd, a bod yn oddefgar. Y dyn, neu'r eglwys, neu blaid, neu wladwriaeth nad yw'n ymwybodol o'i ffaeledigrwydd Y GOLYGYDDION.