Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Bwrw Dy Fara" Gan IFOR O HUWS. FRE dydd Llun, yn ôl ei arfer, yr oedd y Parch. Esra Williams wrthi'n brysur yn ei ardd ym "Mhantyrafon," 30 Sycamore Avenue, S.E. Byth er pan ddaeth i fugeilio'r eglwys Annibynnol Cymreig yn Brompton Square, Llundain, bum mlynedd cyn hynny, daeth trin yr ardd ar fore Llun yn ddefod na fynnai ei thorri. Palu'n egniol a wnâi y bore heul- og hwnnw, ddechrau Ebrill, — palu a meddwl, — braenaru at gynhaliaeth dym- horol ac ysbrydol, — tatws ar gyfer ei deulu, a phregeth ar gyfer y saint. Rhyw- beth tebyg iawn i ddefod eto oedd cydym- gais y cyhyrau a'r ymennydd yn hanes y gweinidog ar fore Llun, oblegid ei reol gyson oedd gosod y bregeth at fore Sul "ar y gweill" wrth drin yr ardd. Darllenas- ai yr unfed bennod ar ddeg o Ecclesiastes cyn brecwast, ac yr oedd eisoes wedi dar- ganfod nifer o ffyrdd o fwrw ei fara ar wyneb y dyfroedd, ac yn dechrau dyfalu am gynifer o ffyrdd o'i gael yn ôl ymhen llawer o ddyddiau pan dorrodd llais Mrs. Williams ar ei fyfyrdodau. "Esra bach, fedrwch chi ddyfod i'r ty am funud? Mae 'na fachgen ifanc yn y gegin, — eisiau rhywbeth i'w wneud am damaid o fwyd. Cymro ydyw, a golwg ddigon gwael arno, druan." "Un o'r criw arferol, mae'n debyg." "Wel, na, nid wyf fi'n meddwl hynny. Ond dowch i wrando'i stori tra byddaf yn parotoi tamaid iddo." "O'r gore." Plannodd Esra Williams y fforch yn y pridd a throdd tua'r gegin yn hamddenol, gan chwilio yn ei boced a oedd ganddo rywbeth llai na hanner cor- on neu ddeuswllt. Teimlai'n sicr y costiai gwrando stori'r ymwelydd o leiaf swllt iddo. Sawl swllt tybed a dynnodd strae- on cyffelyb oddi wrtho yn ystod. y pum mlynedd diwetìiaf? Eisteddai'r dieithryn ar ymyl cadair wrth y ffenestr: bachgen eiddil ddigon, rhyw dair ar hugain oed, gweddol dal, pryd tywyll. Ymwisgasai'n weddol drws- iadus a glân er gwaethaf olion cryn draul ar ei ddillad. Tystiai gwelwder ei wyneb main, a sglein annaturiol ei ddau lygad du ei fod yn dioddef oddi wrth rywbeth mwy nag a fedrai pryd o fwyd ei wella. 0 leiaf dyna farn y gweinidog wrth gymryd stoc frysiog ohono cyn ei gyfarch, gan es- tyn ei law. "Bore da." "Bore da, syr." Goleuwyd yr wyn- eb llwyd gan wên ddymunol iawn. 'Rwy'n gobeithio' y maddeuwch fy hyfdra'n dod ar eich gofyn fel hyn. Os oes rhywbeth allaf ei wneud i'ch cynorth- wyo yn yr ardd, fé'i gwnaf yn ewyllys- gar." "Popeth yn dda, 'machgen i. Peid- iwch â phoeni Eisiau help sydd arnoch mae'n debyg?" Credai Esra Williams mewn dod at y pwynt heb golli amser. "Nid eisiau arian, syr, os dyna olygwch. Eisiau gwaith sydd arnaf, ac nid wyf am gael dim heb roi gwaith yn ei Ie. Nid wyf erioed wedi cardota arian, a gobeithiaf na chaf fy ngorfodi i wneud hynny byth." "Beth yw eich gwaith?" "Ostler oeddwn, yn un o blasau Sir Fynwy; wn i ddim a fuasech yn adnabod Syr William Beynon, Tan y Foel?" "Na, wir, 'chlywais i 'rioed am y gŵr bonheddig, ac y mae Sir Fynwy yn ddieithr iawn i mi. Beth wnaeth ichi ddod oddiyno?" "Wel, bûm yn bur anffodus Ac o dipyn i beth adroddodd ei helbulon, a Mrs. Williams erbyn hyn yn hulio bwrdd. Rwyf wedi arfer â cheffylau ers pan wy'n cofio dim. Ond torrodd fy iechyd i lawr, a threuliais chwe mis yn Sanatorium T Deuais oddiyno ryw ddau fis yn ôl, yn rhydd o'r haint,