Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sylw, ac yn eu mysg un a aeth a'i anadl yn deg am rai eiliadau. O Lerpwl y daethai, er nad oedd cyfeiriad ar y llythyr. Dyma'i gynnwys: Annwyl Mr. Williams, Darllenais y stori yn y "Llefar- wr" a dyma fi'n gwneud peth a ar- faethais ei wneud ddwsinau o weith- iau o'r blaen. Prin y gallaf ddisgwyl ichwi faddau fy nhwyll ofnadwy. Ond y mae'n rhywfaint o ysgafnhad imi gael anfon y bunt yn ôl Anfonaf un arall i Mr. Enoch Jones gyda'r un post. Ofnaf y cymer amser maith imi dalu fy nyledion i gyd, ond yr wyf yn benderfynol o geisio gwneud hynny. Credwch fi, yr wyf yn wir edifeiriol am bob twyll, ac yn arben- Llandrillo, Meirion. nig am sarnu ohonof ar garedigrwydd mor fawr. Duw a faddeuo imi. Yr eiddoch yn gywir, Tom Morgan (nid David Jones). Edrychai'r gweinidog mewn syndod ar y llythyr a'r papur punt bob yn ail. Sylwodd Mrs. Williams arno. "Beth sydd Esra? A ydych wedi ennill ar stori arall?" Estynodd Esra Williams y llythyr iddi, ac aeth i'r stydi i chwilota ymysg bwndel o nodiadau hen bregethau. Fore dydd Sul yr oedd arddeliad mawr ar y genadwri, ac ni chofiodd neb o'r saint fod y gweinidog wedi pregethu ar Ecclesiastes 11-1 o'r blaen. Yr oedd mewn hwyl anarferol, ac yn cryfhau bob cam hyd y diwedd. Ac yr oedd yr 'illustration' yn anfarwol. SIOM 'R wy'n cofio fel y daethost Â'th wên i'm bywyd llwm, 'R un fath â'r heulwen dyner Sy'n lliwio glesni'r cwm. Mi wn paham y cefnaist- Y fwynaf un erioed, Ond gwn, pan gilia'r heulwen, Fod dagrau ar y coed. R. J. ROWLANDS.