Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Profi Bywyd Gan H. K. EVANS. BUM yn fy nydd wrth lawer gorchwyl o bryd i'w gilydd, a synnir fi, wrth edrych yn ôl, mor amrywiol y buont, a melys yn wir yw'r atgof amdanynt. Dyna'r adeg y penderfynais fynd yn athro ysgol, a hynny o bobman yn Aws- tralia, yn 'New South Wales' i fod yn fan- wl. Pan ddaeth fy nghwrs hyfforddi i ben, gofynnwyd imi ym mha ran o'r wlad y carwn weithio. Ni waeth gennyf, o ran hynny, ym mha le yr ymsefydlwn, oblegid yr oedd perfeddion cyfandir Awstralia'n hollol ddieithr i mi. Mi gofiais fod rhyw fardd o Awstraliad wedi sôn rywdro am y drindodlleoedd a alwai yn 'Hay, Hell a Booligal.' Gofynnais a gawn i fynd i rywle rhwng Hay a Booligal. Cefais fy nymuniad, a chyrraedd o'r diwedd Ie o'r enw Gunbar, ryw bedwar can milltir o ddinas Sidney, fy man cychwyn. Y mae Guríbar ryw hanner can milltir o Hay, a thua'r un pellter i ffwrdd o Booligal. Saif ar ymyl Gwastadedd y Goeden-unig ('One-Tree Plain'). Rywbryd neu'i gilydd tyfasai coeden unig ar y gwastad- edd hwnnw, ond daeth rhyw ysbeiliwr heibio iddi, a'i thorri i lawr. Dyna'r lle'r oeddwn yn stiff ac oer fy nghorffyn wedi siwrnai o hanner can milltir yn y goits- bost. Pedwar tŷ a geid yn Gunbar, heb- law ty tafarn a sied fawr a'r ysgol. Pan gyrhaeddais yno yr oeríd hi'n dywyll fel y fagddu, ac ni sylweddolais aruthredd yr unigrwydd tan y bore wedyn. Syllais o'm hamgylch. Nid oedd i'w gweled i barth y gogledd, y dwyrain na'r deau ond crindir gwastad, llwytgoch, diderfyn. Ni welwn flewyn o laswellt yn unlle na llun yn y byd ar goeden. I'r gorllewin yr oedd pedair o goed pupur, y sied fawr a'r tai, a'r tu hwnt iddynt, megis arch a lan- iasai wedi dilyw, yr ysgol-sied bren o ryw un ar bymtheg o droedfeddi ysgwâr, a'r tu hwnt i'r ysgol wedyn-dragwyddol- deb. Wel, dyna'r lle'r oeddwn, boed a fyddai. Mewn ysgol o'r fath a geid yn Gunbar bernid ysgolfeistr nid yn ôl ei ddawn fel athro yn gymaint ag wrth ei fedr i fod o wasanaeth i'r gymdeithas bobl. Bydd- wn yn hel cynulleidfa at ei gilydd, a chan- wn yr offeryn, pan ddôi gweinidog ar ei gylchdaith atom, ryw ddwywaith neu dair yn y flwyddyn. Arferwn gladdu pobl hefyd, pan nad oedd gweinidog o fewn cyrraedd. Un o'r gwyr a gleddais oedd Yr Hen Jim. Gyrrwr bustych ydoedd, ac ni wyddai neb ei briod enw. Unwaith yn unig y darfu i mi gyfarfod ag ef, a hynny pan ddaeth i'r dafarn rywdro i ymofyn am ei gyflenwad-chwe-mis o de, siwgr a blawd. Beth bynnag am hynny, ar ei ffordd adref at ei fustych ryw bedair mill- tir ar ddeg i ffwrdd, syrthiodd Jim oddi ar ei gerbyd-ungwr a thorri ei war. Gofyn- nwyd imi gymryd y gwasanaeth claddu, gan fod gennyf Feibl, a pheth profiad er- byn hyn. Bûm wrthi hefyd yn helpu i wneud arch iddo allan o hen gasys pacio. Yr oedd un o fechgyn yr ysgol yn fy nghynorthwyo hefyd, ond ar y foment hollbwysig fe lewygodd, a gorfu i mi orffen y gwaith fy hun. Cafwyd hyd i hen lorri 'Ford' i wasanaethu fel hers. Yna, cych- wyn y cynhebrwmg, braidd yn anghyff- orddus, o achos bod 'tyres' blaen yr hers wedi'u stwffio â gwellt, a minnau'n eistedd ar y pen blaen gyda'r gjarwr. Eistedd- ai dau alarwr ar yr arch, yn ysmygu, a rhwng poeriadau'n gofidio nad oedd blod- au rhuddgoch i'r hen Jim druan. Yn y cyfamser buasai ychydig o ddynion yn brysur wrthi ryw chwe milltir i ffwrdd yn agor bedd iddo. Yr oedd hi'n eithriadol o boeth, fel y dywedais, ond darfu iddynt. er hynny, ymestyn ryw gymaint ar y bedd, ac yna mi ddarllenais i y gwasan-