Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar Feic Yng Nghymru Gan JOHN T. GREAVES. Y MAE beiciau gan filiynau o bobl ym Mhrydain Fawr, ond allan o'r mil- iynau hynny nid oes ond cyfartaledd bychan sydd yn eu defnyddio fel modd i weld y wlad, a llai fyth, a fyddai'n medd- wl am fynd dros hanner can milltir amynt mewn diwrnod. Nid yw'r rhan fwyaf o bolbl yn ddigon gofalus wrth brynu beisicl i sylwi a ydyw uchder y .ffrâm a lled y troedlenni yn gymwys iddynt, ac yn aml iawn y mae'r 'gears' yn rhy uchel. Tu- edda'r bobl yma i ddibynnu ormod ar y siopwr, sydd wrth gwrs am wneud busnes da, yn Ile cael cyngor oddi wrth rywun sydd yn brofiadol. Wedi iddynt brynu'r beisicl, teithiant i ffwrdd, ac yn fuan iawn ânt yn flinedig a dywedant fod olwyno yn waith caled, ac y mae'n dda ganddynt pan gyrhaeddant adref. Dyna un rhes- wm paham y mae cyn lleied o bobl yn mwynhau marchogaeth ceffyl haearn er ei fwyn ei hun. Fe ddywed y rhai sy'n seiclo am bleser i weld y wlad a phobl y wlad mai seiclo yw'r ffordd orau i wneud hynny. Yr wyf innau ymhlith y rheini, a gallaf ddweud o brofiad bod hynny'n wir. Teithia'r dosbarth hwn o seiolwyr, ar waethaf yr hin, trwy law, niwl, eira, ddydd a nos, fagddu neu leuad. Cofiaf i mi fod yn teithio gyda Dai'r Ffawydd yng Nghwm Tywi. Aethom o Lanymddyfri i fyny'r cwm a daethom hyd ogof Twm Shon Catti. Dwywaith o'r blaen yr oeddwn i wedi bod yno ond heb gael yr ogof, felly treuliasom awr yn cerdded yn ôl a blaen ar y graig a elwir Dinas, unwaith eto heb weld dim y gellid ei alw'n ogof. Yn fy mam i dyma un o'r ardaloedd mwyaf prydferth yng Nghym- ru. Cyfuniad perffaith o liwiau yw'r bryniau gwyrdd a brown, yn erbyn yr wybren las, a'r afon yn tywyallt dros y creigiau llwyd gyda brychau gwyn o ewyn. I ffwrdd â ni wedyn ar hyd yr heol-arwaf i fyny'r cwm gwylltaf yng Nghymru. Ni welsom neb yn ystod y chwe awr nesaf cyn i ni gyrraedd Abergwesyn. Yr oedd yr heol fach yn arwain dros rostir uohel i Drawsnant, lle'r oedd y garreg galed yn ymwthio allan trwy'r pridd. Fel yr âi'r ffordd ymlaen, yr oedd yn rhaid inni groesi un o aberoedd yr Afon Tywi dros astell amheus iawn ei golwg. Tra oedd- wn yn cerdded dros y bont ac yn tynnu'r beic yn ofalus, cefais deimlad anhyfryd iawn wrth ej weld yn llithro'n araf tua'r min. O, dyna heol oedd hi! Wedi pasio Nant-yr-hwch, troesom o'r neilltu a gwth- iasom ein beiciau i fyny bedwar cant o droedfeddi, ac felly i lawr i afon Irfon. Ar ein ffordd i lawr 'Grisiau'r Diafol,' cafodd Dai'r Ffawydd 'puncture' a gym- erodd awr i'w gyweirio, ond bu'r oediad yn gyfle gwych i twynhau yr olygfa. Yr oedd yn rhaid i ni groesi Mynydd Epynt a Bannau Brycheiniog y nos honno i gyr- raedd ein cartrefi, ac yr oedd y 'rough stuff' wedi ein blino. Dywedodd Dai y byddai ef yn cerdded i fyny'r ddwy filltir i'r top gan ei fod yn defnyddio olwyn sef- ydlog. Nid oedd y faner goch yn chwifio ar y pryd, felly aethom i fyny, heibio i focs y gwyliwr, i'r Drovers Áírms, a bwyt- asom ein swper ar garreg y drws a'r ffen- estri yn gorwedd yn ddrylliedig o'n ham- gylch; arwydd o rywbeth a dducpwyd i Gymru gan y rhyfel. Yr oedd yr haul yn maohlud, a'n gwelyau hanner can milltir i ffwrdd. Pan gyraeddasom Aberhonddu cafodd Dai 'puncture' eto, ac yr oedd ei lamp wedi ei thorri hefyd. Defnyddiodd 'torch' wrth fynd trwy Ferthyr rhag ofn gweision yr heddlu. Wrth ein bod yn cyrraedd Storey Arms yr oeddem yn meddwl hyf- ryted fyddai gwely twym, ond nid oedd hynny i fod. Mor oer oedd mynd i lawr i Ferthyr fel y penderfynais i roi fy nghlog- yn amdanaf, ond rhewedig ydoedd; ni byddai'n ildio cyn iddo gael ei doddi gan dwymdra fy ngwddf. O'r diwedd daeth- om i mewn i Gaerdydd am ddau o'r gloch y bore.