Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hynt yr Actor Gan GEORGE DAVIES. I O REDDFAU dyn y tarddodd ei ys- tumiau a'i hunanfynegi trwy gyf- rwng symudiadiau. Ym mabandod y theatr dawnsiwr mimbl oedd yr actor oherwydd, chiwedl Lucian, y mae'r ddawns cyn hyned â chariad. Er ei fod yn fimydd syml, ysgaprwth, yr oedd ei chwarae yn annidwyll gan mai er addoli duwiau a dawnsio i'w boddhau y llunias- ai ei fimau. Unrhyw iddo ef oedd byw- yd a chrefydd, a'r ddawns yn fath o weddi gyhoeddus. Hefyd, yn sgîl dawns a llafar-ganu byddai'n cymryd arno ei fod yn hela neu'n rhyfela, yn pysgota ynteu'n hau a medi ac yn y blaen. Yn ôl llaw daeth canu rhythmig yn rhan hanfodol o'i seremonîau crefyddol. Crefydd a gofyn- ion cymdei'thasol y dyn cyntefig a fu'n gyfrymgau i dywys yr actor o raddfa isel y chwarae naturioì i'r chwarae celfyddyd- ol a ddaeth i'r theatr ers canrifoedd bellach. Cyn dilyn hynt yr actor yn y Gor- llewin mae cip arno yn y Dwyrain yn haeddu ychydig sylw. Gyda'r Sinëwr bu'r elfen o fimio ynghlwm wrth grefydd ers dros dair mil o flynyddoedd, ac yr oedd actorion proffes yn ei wlad yn 600 C.C. O berchen y fath draddodiad gall- odd y Sinëwr ddyrchafu symudiad ac ys- tum i fod yn grefft fimol o berffaith. Heddiw y mae'n gelfyddydwr tan gamp yn y grefft o ddarlunio golygfeydd megis ceffyl ar garlam ac afon yn llifo a symud- iadau un yn marchiogaetìi neu'n rhwyfo ar rythm y cyfryw elfennau symudol. Yn Siapan tyfodd dau fath o ddrama yn sgîl crefydd y wlad, sef, y Kagura sy'n ddawns-gân gyda chyfeüiant ffliwt a thel- yn a'r dramâu No sy'n cynnwys mîm, miwsig, cân a Uefaru. Gorwedd crefft yr actor yn y gelfyddyd o lafarganu a chreu geirfa o symudiadau ac ystumiau huawdl. Megis yn hanes y Sinëwr yr oedd y masg yn rhan anhepgor o arwisg yr actor ac felly sylwer nad oedd gweplunio yn bos- ibl. Gynt, dynion yn unig a fyddai'n chwarae ac hyfforddid rhai ohonynt i chwarae partau i fenywod. Perthynai'r aGtorion i haen isaf cymdeithas er bod y werin bobl yn meddwl y byd ohonynt hwy a'u crefft. Yn yr India cyfryw oedd y term actor a dawsiwr. Ceid dau ddosibarth o actorion, sef yr enwog dysgedig o dras fonheddig a'r crwydryn tlawd a gerddai'r wlad yn chwarae ffarsau ganw, anweddus. Yn wahanol i wledydd eraill y Dwyrain yr oedd benywod yn cael chwarae'n gy- hoeddus yn yr India. Hefyd, yr oedd actorion y dosbarth dysgedig yn uwch eu saíle cymdeithasol 0 lawer iawn a'u cel- fyddyd yn fwy nobl o ddigon oherwydd fe ystyrid eu gwaith yn gelfyddyd gym- deithasol bwysig ac nid yn adloniant a di- fyrrwch munud awr. Yn ôl hen ysgrif ar y grefft aotio disgwyUd perfformiadau graenus oddi wrth y neb a fynnai droi'n actor: dyfyd yr ysgrif, er enghraifft, fod gan yr actor perffaith yr un gafael mewn ystumio ag y dengys y sioe-ddyn pypet yn symudiadau ei bypetau; nad gwell na dodrefn na muriau a cherrig yw'r actor sy'n amddifad o ddychymyg; mai naw el- fen bywyd mewnol y dawnsiwr yw cyf-