Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae eu llinach, wrth gwrs, yn ymestyn yn ôl i oes y Groegwr. Da fydd inni atgofio ein gilydd yn y fan hon am y cyswllt sydd rhwng Cym- ru ac actor y Commedia a'r canol-oes- oedd, ac felly, yn anuniongyrchol, a chwaryddion Rhufain a Groeg. Pan dder- byniodd Cymru yr anterHwt fe gawsom Twm o'r Nant ac yr oedd yntau megis ilawer awdur anterliwt arall yn Ewrop wedi gwisgo amdano fantell yr hen gom- ediwr Groegaidd. Nid ysgrythurol oedd ei destunau eithr fel y ceid ar lwyfan y Commedia a llwyfan yr hen Roegwr, caw- som weithiau sy'n dychanu pob math o or- Y B.B.C., Caerdydd. mes, rhagrith, anghyfiawnder, anfbesoi- deb ac yn y blaen. Yr hen gymeriacfau stoc sydd gan Twm o'r Nant yn ei waith dramatig, sef y cybydd, y rhagrithiwr, y gormeswr a'i gyffeyb a defnyddia hwynt i'r unrhyw amcanion ag y gwnaeth yr hen chwaryddion yng Ngroeg. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg ynteu y gwelwn grefftwyr y llwyfan yn ennill eu plwyf yn gadarn ym myd cymdeithasol eu hoes ac yn myned o barch i barch ac o nerth i nerth oni chawn hwynt heddiw yn uchel eu hurddas a gwledydd cred yn estyn anrhydeddau cyhoeddus iddynt. YR ACTOR (LYN JOSHUA) Wel dyma fe, yr actor gwych, (Melfed y llais yn garpiau sych A 'rouge' yr angau ar ei ddeurudd) Yn gorwedd ar ei wely cystudd. Mae'n sibrwd am y chware a fu A swn ei lais pan swynai lu; Ac am ddramâu rhyw ddyddiau gwyn Pan ddaw e'n holliach wedi hyn. Pan ddaw yn holliach! GWyr mor ffôl Yw sôn am ddod i'r stiwdio'n ôl, Ond camp yr actor yn ei waeledd Yw actio'n berffaith hyd y diwedd. ELWYN EVANS.