Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PA BETH A WNAWN,NIÎ Pa beth a wnawn-ni rhwng cyntun a chyntun â'r Beili Amser yn prowla'n y stryd, a'i ddyrnau yn curo ar estyll y ddôr? Bolltiwn y drysau a chuddio'r trysorau, a chyrchu y fegin i chwythu ei sbena yn ôl iddo fo, a phoerwn ein henllib trwy dwll bach y clo. Pa fodd y darparwn ar gyfer Yfory â'i filiau a'i felan yn gwisgo y clai, a hoelion éin heirch o hyd yn prinhau? Bathwn obeithion; cyrchwn y cwpon, a chraffwn am hydoedd ar y sgwariau bychain- ffenesîtri ein ffydd- a gyrrwn saeth-weddi i Lenpwl Caerdydd Pa beth a wnawn-ni â March y Fagddu? Ai cyfrif y meirwon, a diolch bod llai o foliau i'w Uenwi yn nyddiau y nych? Arllwyswn ein crefydd bob nos i'r gobennydd, a gofyn i'r Nefoedd am ei dognau haeam rhag newyn a haint- am chwys yr angylion a griwel y saint. Pa fodd yr ataliwn-ni'r March Ysgarlad â magned y megnyl yn tynnu pob onawd, a'r diafol yn llechu danwasgod pob dyn? Rhown irad i'r tanciau ac olew i'r gynnau. Trwmpedwn ein rhybudd: "Mae'r gelyn yn dyfod â gwaed ar ei fin!" A gyrrwn y gwirion i danchwa y drin. Pa fodd yr osgown-ni y Bwli Angau pan ddelo'i farch gwelwlas i bowdro y fron?