Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa fodd y dihangwn rhag carnau y march? Perffeithiwn y rhoced i'n cipio o'r blaned, a mynnwn gael picnig ar fronnau y lleuad ddihangol ac oer, gan ddiolch i'r mawredd am heddwch y lloer. Dinbych. GWILYM R. JONES. ANGLADD MAM Diallu sefyllian uwchben y bedd, Bedd ein creawdwyr: A gostwng corff y fam at ei gwr. Mae glesni ar graig ac awyr. Mudan ei groeso. Mae'r hiwmor a fu? Direidi'r tad? Mudan yw angau: Nid oes onid deunod gwatwarus cog Yn chwarae mig rhwng y beddau. Dyfaled fuost yn canlyn dy ŵr Dros feiithder y moroedd; Dilynaist ef heddiw ar bellach taith O'r hiraeth a'r gwyntoedd. Hardded dy gorff a glaned dy gnawd  heulwen y Mai dihidio Sy'n tywallt ei chwerthin ar bared y bedd: A ninnau'n ymladd rhag crio. Diallu sefyllian uwchben y bedd Mae dy blant heb graffter meddwl, Glas yw orielau chwareh'r fro, A glas yr wybren ddigwmwl, A glas yr angau. Na chofiwn ef; Sleifiwn o'r fynwent ennyd, A gadael y ddau i gysgu ymlaen: Y cyrff a roes inni fywyd. Rhuthun, R. BRYN WILLIAMS.