Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARTHENON (Ymweliad â'r 'Uyfrgell Genedlaethol' ac arddangosfa darluniau o'r 'Tai Mawr' a hefyd eiddo Richard Wilsoo a'i 'Gader Idris'). Dringaf y bryn-pan dorro yn haf Rhyfeddaf ei gweld ar ei huchel-dir, Yn gannaid Barthenon dan loywder haul A'i wyneb yn llathru dros bellter y môr. Dringaf ei grisiau gwenithfaen clên A gweled ei henw argoelus byw'n Fanerog dros braffter ei chadarn borth; Sagrafen ein hawydd cynhenid yw, Caerfa'n syberwyd, ein hiaith a'n tud. Bid yma heddiw olygfa daer, Neu greiriau aow o'n cynnar oes- Y memrwn a'r atgof, a'r henfyd claer; Dôf i'r ystafell eang ei llun Ac ar ei pharwydydd ceir llawer oes Yn grefftus ynghrog mewn olew a dwfr. Mae bonedd arddunol mewn melfed a sider Yn fyw ar y pared a'u gwendid yn fud: Sibrydion ydynt o'r hen genedlaethau A'r goruchwyliaethau a fu, a fu; A rhyngthynt tiriondeb y ddaear fraen, Ac yma mae Ef, ein Harlunudd ni, A'i lygaid agored yn llanw'r byd! Dringaf y mynydd-pan ddywed Ef Fod yno ryfeddod a gorau byd: Y graig a'r sicrwydd tragywydd maith, Y llyn sydd isod, a'r tiroedd hud, A'r awyr haf a'i dhyfaredd llaiwn Tros geulan mynydd-yn glir, yn glir! WILSON, a'i weledigaeth yn lbsgi'n liiri Na dderfydd ei hudau a'i rhiniau byw! WILSON, a welodd y sylwedd mawr Sy'n llanw'r ddaear anniflan fras! Caf, trwy ei bwyntil a'i lygaid fflam, Eilwaith y ddelw a roed gan Iôr Yn uchter y ddaear A Ueithter y môr.