Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ac felly, o'th uchel gymwynas di, Fwyn gannaid Barthenon dan loywder haul, Pan dorro yn haf, y caf eto wledd Ac ympryd i'm henaid di-yrríborth llwyd. Pan welwo'r ffurfafen a'r awyr hen Dros fannau fy nhud yn yr hwyr brynhawn Bydd Ef ar y bryniau o hyd, o hyd, Yn uchel ei elw Mewn lliwiau coeth 4 A'i lygaid agored yn llanw'r byd! Ton-Pentre. L. HAYDN LEWIS. TAMAR (Yn Newyn Ewrop) Y dwylo a gerais yn y Gannim gwâr, gafaelwiw gloeau, nid oes mwy a'u câr ond marsiandîwyr chwant. Tu hwnt i'r wên pan ildio'r cnawd ymguddia storm ei bâr. Yn Effraim rhwng y coed mae nosau nwyd yn agor gwregys ei gwyryidod llwyd, y bronglwm gwyl, a'r wisg nas cododd gŵr, a chaer ei gliniau: mae gan y milwyr fwyd. J. GWYN GRIFFITHS.