Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LIMRIGAU DIWINYDDOL I. 'Roedd dyn bach o ganol Cwm Gwendraetjh Yn ymdrechu â her diwethafiaeth. Dwedai, "Wir, mae'n beth od, Ond heb C. H. Dodd Mi fuaswn mewn pwll o anobaith." II. Mynnai halier o fro Abercannaid Nad oedd nefoedd i neb ond y Barthiaid. Os darllen Karl Barth Ydyw'r ceffyl a'r cart Fe gaiff y lle arall ei goflaid! III. 'Roedd dyn bach o ardal Trewyddel Yn alegoñwr annymchwel. "Peidiwch poeni, da chi, Am y diafol: clywch fi— Mi alegoreiddiais y cythrel." LAWNSLOD. 1947 (Gorfodaeth Filwrol ar Ieuenctid Cymru) Heddiw daeth dydd adwythig—mwyaf cam Hyn o nam annhymig: Ni bydd diben arbennig I bren pan dorrer y brig. EUROSBOWEN,