Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YSGOLFEISTR, DRUAN! Fe'm gwnaed yn brifathro ym Mhant-y-Cwm-Du Er rhoi pob gwybodaeth i'r plantos bach, cu. Rwy'n codi'n go fore i fwyta fy wy Ac yno cynlluniaf am addysg y plwy: "Mi af ati heddiw i weithio'n ddi-stop. Pethau bach ar y gwaelod, pethau mawr ar y top. Af ati i weithio trwy ganol blawd Hit Egwyddor daeareg a hanes a rhif Cytgan- Ond rhoswch chi funud, ewch i ddarllen, fy mhlant, Rhaid llenwi rhyw ffurflen i'r boi-tynnu-dant. Wel nawrte, rwy'n barod, byddwch ddistaw bob un, Dyma wers fach ar Gymru, o Benfro i Lýn. Ond nawr dyma'r cwc wrthi'n hwpo ei phig- "Mae'r tato ar ben, a dim gobaith cael cág. Mae pwyntiau y cwstard yn brin o ryw ddeg, A dyn y 'Food Office' yn agor ei geg." O'r gorau, o'r gorau, fe'u ffeindiaf hwynt chwap Yn y drôr ger y ffenestr rhwng y 'Savings' a'r map. Ond rhoswch chi funud, etc. Wel nawrte amdani, byddwch ddistaw bob un. Am beth own i'n sôn? 0, am Benfro a Llyn. Oedd na gnoc ar y drws? Wel oedd, debyg iawn, A phwy yw'r dyn hwn? A beth yw ei ddawn? "Myfi yw John Ystwyth, y Trefnydd P.T. Mae gormod o ddysgu'n eich ysgol chi, Sef gormod o ieithoedd a gormod o Ril, Wel ewch â hwynt allan am naid i'r blawd llif." Ond rhoswch chi funud, etc. Wel nawrte am hanes Sir Benfro, fy mhlant, Pum munud cyn llenwi y fform-tynnu-dant. Pwy yw hwn sydd yn dod? "Y Pensaer wyf i, Dod yma ar sail eich achwyniad chi. Y chwaraele'n rhy arw? Yn gerrig mawr? Sdim goíbaith cael dim tar-macadam yn awr. Ond gan nad oes gennych ryw lawer o rif, Awgrymaf eich bod chi yn iwso blawd llif." Ond rhoswch chi funud, etc. Wel nawrte, wel nawrte, map Cymru yw'r pwnc, A dyma fi bellach yn clirio fy llwnc. "Bore da." Bore da! Wel tawn i heb ffoi! Y nyrs wedi cyrraedd! Dim amser i droi!