Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhag ofn yr ypsetir stumogau di-rif Gwell cadw yn handi lond sach o flawd llif." Ond rhoswch chi funud, etc. A dyma bum munud ar ddiwedd y pnawn I sôn am fap Cymru, yn frysiog iawn. "Sgusodwch fi, Syr," wel, y Trefnydd Bwyd! "Rych chi'n drwm ar eich points," dywedai mewn pryd. "Mae'r 'Corn Flakes' sydd yma yn dirwyn yn fain, Dim gobaith cael rhagor tan 'Period 9.' Na phoenwch ddim, madam, gan lleied eu rhif Gall plant bach y wlad fyw yn iawn ar flawd llif. Ond rhoswch chi funud, etc. Wel ati i fesur y deutroed a'r pen A gwneud rhestr lawn am yr 'extra ten.' I'r 'Natàonal Savings' casgler â blas! Dros y 'Safety Campaign' fe agorwn mâs! Na phoener am ddysgu! Rhowch laeth am ddeg! Rhowch glocs am eu traed! Rhowch fwyd yn eu ceg! A galwed swyddogion-llywodraeth di-rif, Bydd yma'n eu disgwyl stoc dda o flawd Hif. Ond rhoswch chi funud, etc. Bwlchygroes, Penfro. W. R. EVANS. CYWYDD: Y CHWARAEWR RYGBI Gweithiwr gwydyn bygythiol, A'i nwyd cael y bêl yn ôl. Yn y sgrwm, yn drwm ei droed, Rhydd angerdd ei ieuengoed. A oes a edliw i'r sodlwr Ei siars a'i godymu siŵr? Yn y lein-owt ail i neb, Ni chwyna mewn tryohineb. Yn gêl bydd ei benelin Yn rhoi gloes i dor a glin. Dyry bang â'i grafangau; Â chlo dwm mae'n gochel dau, A rhaffau rheg refferî Yn ebrwydd yn ei sobri. Ysgubol, os oes goibaith Cael o'r dyn daclo ar daith! Wele fab glew o'i febyd, Ac wele fab gwael ei fyd: Tolcio'n glaf mewn talcen glo Heb rhyddhad, ond breuddiwydio: Ystrydoedd llawn i Stradey!