Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tân, a llef fel tonnau l1i! Meddwl am gêm o'i eiddo A braint o flaen ffrindiau bro! Sŵn talar cae Sant Helen, A lliw hud y llinell wen! Ei gorff trwy y pac yn gwau, Erfyn am Barc Yr Arfau! A 'Murray Field'! Na, mor ffôl Magu rhyw blwc dychmygol. Y floedd! Fel pe bai Fleddyn, Tanner neu Gleaver neu Glyn. I lan o'r pwM mwll a'i medd Y'i denir ar adanedd. W. K. EVANS. GWYRTHIAU'R OES HON Creadur da yw'r Ostin Sadth Am fynd a phobl at eu gwaith, Ond i'r pregethwr, 'Diolch iddo,' Offeryn yw cael dianc rhagddo. Mae'n barchus iawn, ni fyddai'n syn Pe gwisgai'r car ei goler gwyn. Ar gwshin hwn ceir gweld y Parch Yn mynd á sioe a dilyn arch: Ni chlywais i fod 'Ford' na 'Fiat' Yn aelod llawn o unrhyw seiat, Ond pe bawn i yn lywydd sasiwn Dyma'r cyntaf peth a basiwn. Purion peth yw mynd i wâco; Ennill chweugain at ddybaco— Cewch ei weld fel Meistr Mostyn Wrthi'n eistedd yn ei Ostin, Ond nid oes 'na nemor afael ar Weinidog sy'n 'Gommercial Traveller.' I'r Noson Lawen â yn handi Gan gludo'r gweinidogion digri. Yntau'r esgob âi yn gacwn Pe na chai'r ficer 'nôl ei facwn. Bydd raid, os mynnir arbed panics, Rhoi cwrs i'r stìwdents mewn mecanics. 0 Fôn i Fynwy wrth y whil Yr Ostin 'nawr sy'n 'cadw'r Sul'! Gwelir hwy ar ffyrdd a thwyni O ba le daw yr holl alwyni? Oes y gwyrthiau ddaeth i'w gwrthol, Heddiw, troir y dŵr yn ibetrol! Aberdâr. J. JACOB DAFIS