Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fflachiau PRIFYSGOL CYMRU. Yn y rhifyn hwn ceir trafodaeth ar Brifysgol Cymru. Teimla'r FFLAM i'r byw sarhad ar arddas dysg yn ein hiaith gan brifysgol ein gwlad. Ys gwir fod nawdd ar ddysg yn y Gymraeg o du unig- olion goleuedig o'i mewn, ond, y tu allan i adrannau y Gymraeg yn fwyaf neilltuol, prin iawn yw'r amgeledd a gaiff ym mholisi y Brifysgol. Credwn ei bod -hi'n hen bryd inni ddileu anfri'r Brifysgol ar fywyd y genedl, canys llanw swydd prifysgol Seisnig yn ein mysg a wna. Nid drws yw hi i gyfoeth dynoldeb gerdded i mewn drwyddo i aneddau Cymreictod, eithr gwal ddiadlam ydyw ar ffordd cyn- nydd ein bywyd llawn. Beth sy'n rhwysro troi un o'i cholegau'n ddioed yn goleg Cymraeg. Gwnâi hynny o leiaf ryw gymaint o iawn am gamwri ei gyrfa hyd yn hyn. CYLCHGRONAU NEWYDD. Rhoddwn ddeau ddwylo cymdeithas i ddau gylchgrawn newydd, sef Y DELYN, cylchgrawn cerddoriaeth dan olygiaeth W. S. Gwynn Williams, Llangollen, ac Y WAWR, cylchgrawn Cangen Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o'r Blaid Genedl- aethol, a'i golygyddion Dewi Eurig Dav- ies, Gwilym Prys Davies ac Eirian Davies. TAI. Nid oes caniatâd i godi ond 11,000 0 dai yng Nghymru gyfan ar hyn o bryd, ac un o'r rhesymau a roddir am hyn gan swyddogion adranau'r Llywodra.eth yw nad oes dichon cael y coed priodol o Nor- wy. Honnir nad yw Norwy'n barod i werthu coed am arian, ond yn unig yn gyfnewid am lo. O ddiffyg glo llosgir coed yn y wlad honno sy'n addas at adeil- adu tai. Gwrthuni'r peth yw fod Cym- ru'n codi llawer mwy o lo nag sydd eisiau arni, ac eto nid yw hi'n alluog i gyfnewid o'i digonedd am goed at godi tai i'w phobl. Nid oes rhyfedd fod Cymru'n dlawd, pan fo gomedd iddi reolaeth ar ei hadnoddau ei hun, a hithau o ganlyniad heb allu i drefnu ei thy yn gymwys i gyfarfod â gofyn ei thrigolion. DINASYDDIAETH ANGHYFARTAL. Os dymunant gyhoeddi'r 'Highway Code' yn Gymraeg, geill awdurdodau lle- ol Cymru dderbyn grant at hanner y gost oddi wrth y Weinyddiaeth. Rhaid, hynny yw, i ddinesydd o Gymro, nid yn unig dalu drwy drethi am gael rheolau'r ffordd fawr yn Saesneg, ond ar gefn hynny rhaid iddo drwy ei awdurdodau lle- ol dalu ychwaneg i'w cael yn Gymraeg. Ie, y mae'n ofynnol i'r Cymro dalu ecstra i wybod pa fodd i'w ddiogelu ei hun ar ffyrdd y ibrenin. Nid yw'r Cymro, mae'n amlwg, yn gydradd ei ddinasyddiaeth â'r Sais. ANFOESOLDEB GORFODAETH FILWROL. O'n safbwynt ni fel Cymry y mae y Mesur Gwasanaeth Cenedlaethol yn an- foesol ar o leiaf ddau gyfrif. Y mae'n drais ar ryddid yr unigolyn, a hefyd yn wadiad ar hawl Cymru i benderfynu ei thynged ei hun fel cenedl. Y mae eg- wyddor rhyddid yr unigolyn, wrth gwrs, yn fater o bwys i'r Saeson yn gystal ag i'r Cymry, ond os cred y Saeson fod diogelu buddiannau grym Lloegr yn bwysicach na rhyddid ei dinasyddion, yna rhyngddynt hwy a'u tynged am hynny. Sut bynnag, y mae'n sicr nad oes hawl foesol gan y Wladwriaeth ym Mhrydain Fawr i orfodi Cymru sy'n genedl, a heb gweryl ganddi ag unrhyw genedl arall, i gynnal sefydliad rhyfel drwy dderbyn gorfodaeth filwrol arni, a bod felly dan raid i hyrwyddo polisi gwleidyddiaeth grym yn y byd. LLYDAW. Y mae erledigaethau y dyddiau hyn gan y wladwriaeth yn Ffrainc ar genedlig- rwydd ein chwaer genedl yn Llydaw. Darllenir Y FFLAM yn y wlad honno, a charem yn y nodiadau hyn ddatgan ein cydymdeimlad â hi ym mhrofedigaeth y gorthrwm.