Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU COLLFARNU IWERDDON. ANNWYL OLYGYDDION, Mae R. S. Thomas yn eich rhifyn cyntaf wedi collfarnu Iwerddon am ei bod yn glaf o dan haint arian a swydd. Beth yw sylfaen collfarn mor ysgubol? Llythyr a dder- byniodd gan UN Gwyddel siomedig. Yn awr, mae eisiau inni yng Nghymru, fel y dywed Mr. Thomas, ddysgu llawer peth; ac un ohonynt ydyw bod yn drylwyr a pharchu'r gwir a pheidio â ffurfio barn heb aros ac ymchwilio. Dywed Mr. Thomas bethau cryfion iaŵn hefyd am Ymneilltuaeth. Dywed i Ym- neilltuaeth achub yr iaith, ond ei bod wedi gwneud drwg mawr oherwydd iddi "ddat- ganoli awdurdod." Nid wyf am drafod yr haeriad cyntaf. Ond pur anodd yw gweld sut y gall Mr. Thomas fod yn onest yn ei awydd dros ryddid i Gymru os yw'n tybio bod unrhyw ddatganoli awdurdod yn beth drwg. Mae datganoli awdurdod yn golygu rhoi i'r bobl y safonau a haeddant ac a ddymunant, a bydd hwn yn ganlyniad anochel ymreolaeth yng Nghymru. Mae gofyn am ryddid i Gymru ac ar yr un pryd gresynu at ddatganoliad awdurdod-mewn unrhyw faes-yn anghyson, a dweud y lleiaf. Coleg y Brifysgol, Caerdydd. GWILYM CADWGAN. Y CARCHARORION RHYFEL. ANNWYL OLYGYDDION "Y FFLAM," Y mae trueni ein carcharoion rhyfel yn pwyso'n drwm ar enaid pobl yr Almaen. Aeth tua dwy flynedd heibio er pan ildiodd ein lluoedd, eto wedi cyhyd o amser y mae miloedd ohonynt na chaniateir iddynt ddychwelyd adref i'w'mamwlad. Y mae eu teuluoedd yn dioddef; mamau'n hiraethu am eu meibion, gwragedd yn ymlafnio mewn caledi, plant yn tyfu heb adnabod eu tadau. Angen a phrinder tost sydd ar bob llaw. Ni welwyd erioed mo fath y trybini presennol. Hyd yn hyn methodd pob apêl i gael y carcharorion yn rhydd. Gan nad oedd dim yn tycio, gwnaeth yr eglwysi hwythau apêl drostynt; apêl at Dduw ac apêl at Iywod- raethau y Cynghreiriaid. Ddiwedd Medi diwethaf cynhaliodd yr holl Eglwys Efengyl- aidd wythnos weddi ar eu rhan. Hefyd gwnaethant apêl adeg y Gwyliau at Gristnogion led-led y byd i wneud hynny a allent i ddylanwadu ar eu llywodraethau i'w rhyddhau hwy. Mynych y clywir plwyfolion yn gofyn: "A fydd Duw yn ateb ein gweddi? A wna Cristnogion eiriol dros ein carcharorion? A wnânt, fel y dywedodd ein Harglwydd: 'Bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. Yr eiddoch yn gywir iawn, 2ob/Ohlendorf überSalzgitter Britische Zone :Y Parch.) ROBERT BÖTCHER. Gweinidog yr Eglwys Efengylaidd.