Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yng Ngolau'r Fflam BARDDONIAETH YR ARLOESWR: Pryddest gan David Jones, Ffair Rhos, Caerdydd: Llyfrau'r Castell, 1946. Tt. 12. Pris 1/ Mae'n amlwg oddi wrth y bryddest hon nad yw'r cynhaeaf telynegol a gafodd ei ffrwyth nodweddiadol yn Eifion Wyn eto wedi ei fedi yn llwyr. Yn wir, llwyddodd Mr. David Jones, Ffair Rhos (nid yr un David Jones ag awdur "Yr Anialwch") i arloesi ar hen feysydd gwr- teithiedig. Ceir yn ei gerdd grefftwaith glân a gewynnog, a chryfach saernïo nag a fedrodd Eifion Wyn ei hun. Mae'r delyneg yma wedi ei phalmantu & geirfa rymus ac wedi ei duro 4 haenau trwchus o gynghanedd. Pan na bo'r ansoddair disathr yn rhy amlwg, oawn linell au syml eu swyn fel Am golli ohonom ddiddig ddawn Cynteddau gwyllt y myllt a'r mawn." Gwelir trais y gynghanedd yn "bloedd blwm," "flwltur ffaw" ("fwltur" sy'n iawn), "yr am- aethwr gwladaidd." Sonnir am "delynau Pan": chwarae teg i Pan hefyd, efallai iddo flino ar ei bibau. Ond artist disgybledig yw Mr. David Jones. Mae "Cân y Cefnffordd" a "Chân y Nentydd" yn wych yn eu cyfrwyatra awenus. Ai dewisach y gerdd hon nag "Arloeswr" Mr. Rhydwen Williams? Pethau i fynd heibio yw "coronau gwyoh y ddaear," ond yng Nghymru creant ddiddordeb Ysol mewn barddoniaeth. Yn licr, anae cerdd Mr. David Jones yn haeddi coron. Mae'n well crefftwr na Mr. Williams— ar gynfa* cyfyng. Ar gynfas cynhyrfus o fawreddog y paentiodd Mr. Rhydwen Williams. Os yw ei gerdd yn fethiant, mae'n fethiant ysblennydd. J. GWYN GRIFFITHS. UNWAITH ETO: Telynegion Newydd Wil Ifan. Gwasg "Y Brython",Lerpwl, Chwef. 1946 tt. 87 a 4 darlun wedi eu tynnu o ddarluniau lliw Wil Ifan. Pria 3/6. "Tair agwedd ar Hiraeüi, felly, yw prif destunau'r telynegwyr Gymreig, yn cynnwya am- rywiadau ar yr Hiraeth am ddau wrthrych—person a lle." Os cywir dadansoddiad yr Athro W. J. Gruffydd yn ei ragymadrodd i'r Flodeugerdd Gymraeg, gellir dweud bod Wil Ifan yn drwyadl ffyddlon i'r traddodiad. Hiraeth am y wlad yw ei ysgogiad pennaf. (Cf. ei rag- air: "Sylwaf fy mod yn aml yn sôn am 'y wlad' .) Clywais genhadwr o Lwshai yn dweud bod y gair Hindwatani (?) am hiraeth yn golygu rhywbeth fel "y galon yn mynd am dTo"; a áyna a welwn yma, y galon yn tmynd am siwrneiau pêr i Fanc Blaenwaum, Brynhawen, Glan Ogwr, Y Gogledd, Abergwaun. Mae'r bardd wedi rhannu ei gerddi fel hyn, a theimlir yn fuan y gallai'r diffyg amrywiaeth yn ei destunau droi yn feichus onibai am fywiogrwydd ei ffansi. Mae graen fel arfer ar ei grefft, ond bywiogrwydd ei ffansi yw'r elfen a geidw'r gyfrol rhag colli ei blas oherwydd undonedd. Er enghraifft, fel hyn y dechreuir cerdd ar Gwener y Garoglith' "Gwyliaf hi'n fynych fin nos, Y gyntaf a'r lanaf ei phryd, Yn lliwus ar wybr y gorllewin, Yn wên ac yn draseTch i gyd." Swyn y deohreuad neu'r diwedd annisgwyl yw swyn llawer o'r cerddi. Ceir weithiau new- ydd-deb ffurf yn ogystal, a dengys darn fel "Llarswydden" fod ganddo glust denau at rith- mau diddorol. Ond nid oes ganddo glust bardd fel Dyfnallt i glywed gwaeau'r ddynoliaeth. Mae'n wir bod adran o dan y penniawd "Yn Adeg Rhyfel" yn cynnwys un gerdd sy'n dechrau