Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Na ato Duw i neb farddoni Ing y pedair blynedd hir," Ť i ond nid yw hyn, nac awgrym yr awdur, yn ddigon o amddiffyniad. Cofiaf Mr. John Ed- wards Tyddyn Llwyd yn cyfeirio at bregethwr enwog fel "yr hen bot mêl." Dyma berygl Wil Ifan. Rhoes inni gofiaid o felysterau'r wlad a'r hen fywyd. Os yw ei gyfrol yn ein boddio er gwaethaf hyn, rhaid diolch i'w graffter di-ystrydeb. Fel Goethe a Rhydwen Williams, mae Wil Ifan yn arlunydd yn ogystal â bardd. Bu- asai'n hyfryd cael ei luniau yn y lliwiau gwreiddiol, ond hoffais hwy hefyd fel y maent. Abertawe. J. GWYN GRIFFITHS. PLANT Y LLAWR, gan R. Meirion Roberts. Gwasg Gee. Cerddi rhyfel a geir yn y gyfrol hon. Y Rhyfel, "y dwys wae a ddaeth ar ddynol- ryw" (td. 43) a'u dug i fod. Ryw ddydd fe'i cafodd Meirion Roberts ei hun yn llefaru "geiriau tangnefedd" ymhlith 'di-ddewis deithwyr" ar siwnai a oedd yn dwyn distiyw ar Ffrwythau llafurus gariad Yr addfwyn yn y tir. (td. 11). Awgryma mai ofer fydd yr holl ymfyddino. Oni welodd ef yn yr Affrig: Filwriaeth Rhufain yn adfeilion llwyd? Gwendid y ddynoliaeth ydoedd achos y Rhyfel, a phan ddêl yr ynfydrwydd presennol i ben. mawr ydyw ei obaith "mai distawrwydd dwys" a geir. Yn ei alltudiaeth cododd hiraeth arno am Gymru, am Harlech, am hen fwynderau, megis y gwanwyn gwyrdd yn Edeirnion, yr haf ar lannau Conwy ac yn Llanfair Dyff- ryn Clwyd, Menai yn yr hydref, ei aelwyd gartref yn y gaeaf, ac am: Acenion y canrifoedd cain Ar enau 'mhlant fy hun. (td. 36). Bu'r Rhyfel yn achlysur iddo ganu ar hen thema'r beirdd, sef Angau: Ble'r ei di, lanc o filwr 4 Mor hoyw a hy dy fron? Mae'r Angau Bach yn chwarae Ar aelwyd fwyn Llan Onn. (td. 13). Canys y mae gan y milwr "oed â'r angau." "Tiriogaeth newydd i'r Angau drin yr og" (td. 31) ydyw meysydd y gad. Apelia at yr Angau hwn, "chwalwr pob gobeith- ion." (td. 17): Angau, oni ostegi dro dy law. (td. 31). Eto i gyd, er nad oes na "chwedl na chân" "ym mangre drist y marw" (td. 22), nid trychineb ydyw'r bedd ychwaith: Odid yn wir na thry ei droed, Sancteiddiaf Ef ddiweddnos ddwys Lle mae'r twmpathau trist a'r crwys. (td. 24). Os collir "llwybrau bythgofiadwy'r grug," y mae gobaith yr enillir "llwybrau gwyn- fydedig" y Nef. (td. 37). Gwelwn felly mai gwr crefyddol iawn ydyw'r bardd hwn. Bu'n ymdrafferthu llawer â phwnc crefydd. Bu'n cellwair caru agnostiaeth a dyneiddiaeth, ac ebr ef: Diau y gwelsom derfyn Fy nghred yn un o'r rhain, if Pe na bai un i'm herfyn Hyd erwin lwybrau'r drain; Neb byw ni thrig o fewn fy ngho' Mor hyfryd lawen ag Efô." (td. 21).. Y "diddanwch" (chwedl Harnack) a gynigir gan Grist ydyw cyfrinach anorchfygol bywyd i Meirion Roberts. "Blasus nodd" ydyw ei air ef amdano.