Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Heblaw hynny, cynllun da ydyw i benglymu pennill neu gwpled, canys gwasanaetha fel rhwymyn am ysgub, gan sicrhau cyfanwaith synhwyrol. Mae'r bardd yn ymddangos ei fod yn canu'n efíeithiol am resymau eraill hefyd. Yn un peth, darganfu fod cyfarch gwrthrych neu destun ei gerdd yn ddyfais dda mewn tel- yneg. Dyna'r paham y ceir yn ei waith beth wmbredd o ganu yn yr ail berson. Nid oes anghaffael amlwg, hyd y gwelaf, ar adeiladwaith ei gyfansoddiadau, ac eith- rio, efallai, mewn un gerdd, sef yw honno, "Corwen." Amherthynas yw'r bai. Dylid hepgor y pennill olaf ynddi. Diau y cytunwn fod yn y gyfrol hon arwyddion sicr crefftwr cydwybodol. Astudiodd Meirion Roberts arddull a moddau prifeirdd ein canrif. Gellir yn rhy hawdd, ysywaeth, ganfod yn ei gerddi ôl darllen R. W. Parry a W. J. Gruffydd ,ac eraill, megis J. T. Job, hyd yn oed, fel y gallwn farnu wrth linellau tebyg i'r rhai hyn: Hir wasgaredig breiddiau Crist Pwy a'u tywys ar eu rhawd? Cymharer "Bugail y Briallu" (Y Flodeugerdd Gymraeg). Yn wir buasai'r gân hon o eiddo Job yn ennill ei lle yn naturiol ddigon yng nghyfrol Meirion Roberts. Yr un naws sydd ynddi. Nid dibrisio ydyw dweud ei fod yma a thraw yn adleisiol. Ar y pwnc hwn, ni ellir gwell na dyfynnu beirniad Saesneg: "Great masters must write like someone else before 'they learn to write like themselves." Edrychwn ymlaen at ddarllen ei ail gyfrol. Onid na bydd honno gryn dipyn yn wa- hanol ei hansawdd i'r gyntaf. Ar faes y gad, mewn amgylchiadau anfíafriol ddigon i lenydda y lluniwyd y rhan fwyaf, onid y cwbl, o gynnwys hon. Gallai pwysau am- gylchiadau annaturiol o'r fath beri dinoethi annrheg ar ei bersonoliaeth a rhoi atalfa i rym ei ewyllys fel crefftwr geiriau; peidiai ag ymboeni â manylion hollbwysig ei grefft. Nid awgrymu yr ydys fod cerddi Merion Roberts yn fawr gwell na negeseuon gwyllt mewn iaith ymfflamychol, ddi-gamp, tebyg i'r cerddi rhyfel arferol, ond yn hytrach, galw sylw at absenoldeb amlwg y teip hwnnw o ganu ac at bosibilrwydd ymnewid ym mater a Surf ei gyfansoddiadau. Cerddi tipyn llai goddrychòl a llai dadlennol, hwyr- ach, a gawn ganddo. Bydd ef yn fwy tawedog. A defnyddio ffigur, bydd hufen ei fyf- yrdod wedi tewychu'n llwyrach y pryd hwnnw ,a chaiff fod ganddo well deunydd i'w drin. Bid siwr, bydd sicrach llaw wrth y gwaith, a'i farc ef ei hun a fydd arno. Coleg y Brifysgol, Bangor. GERAINT BOWEN. BEIRNIADAETH ERTHYGLAU BEIRNIADOL, gan D. Tecwyn Lloyd. Y Clwb Llyfrau Cymraeg. 1946. Tt. 88. 2/6. Prin iawn y bu ein hysgrifenwyr beirniadol yng Nghymru. Felly y bu yn Lloegr hefyd hyd y ganrif ddiwethaf. Peth diweddar yn hanes llenyddol gwlad yw corff o feirniadaeth safonol, a bu'n rhaid aros hyd y ganrif hon iddo ymddangos yng Nghymru, os yn wir y gellir eto alw ein hychydig feirniaid safonol yn gorff. Y mae gwir angen amdanynt— heddiw yn iwy nag erioed, a chroesawn felly gyfraniad diweddaraf D. Tecwyn Lloyd. Yn ei lyfr ceir erthyglau beirniadol ar nifer o destunau. Cyhuddiad a wneir yn erbyn llenorion o Gymry yn fynych yw na thrafferthant i ysgrifennu "llyfr" — eu bod yn bod- loni ar gasglu eu cynhyrchion o wahanol gyfeiriadau ac ar amrywiol destunau a'u galw yn llyfr. Ond er i erthyglau D. Tecwyn Lloyd gael eu cyhoeddi o bryd i bryd-rhai ohonynt yn sgyrsiau radio-y mae iddynt unoliaeth. Y mae gan bob gwir feirniad ef- engyl i'w chyhoeddi, ac efengyl y llyfr hwn, a'r hyn a rydd iddo ei unoliaeth yw'r gos- odiad syml mai peth byw yw diwylliant ac mai peth byw yw llenyddiaeth. Syml pob gwirionedd ond nid mor syml ei gyraeddiadau.