Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cawn fwrw golwg yn yr erthygl gyntaf ar gyflwr diwylliant cyfoes Cymru, a chael ei fod yn ei hanfod yn geidwadol-os nad 'litotes' yw arfer gair o'r fath. Arwyddocaol yw nad oes gennym bapur lluniau i blant yn Gymraeg ,na ffilmiau Cymraeg ,na phapur dyddiol Cymraeg na phrifysgol Gymraeg. Yn hytrach trown ein hwynebau yn ôl a cheisio atgyfodi creiriau'r gorffennol. Hyd yn oed yn ein prifwyl cawn yr un duedd. Dyma, wrth fynd heibio, ddyfyniad o lythyr a dderbyniais y dydd o'r blaen: "ond j mae diffyg cystadleuaeth yn amryw eitemau cerddorol wedi ein gorfodi i ostwng ein safon ac i ganiatau hen ganeuon a hyd yn oed ddewisiad agored." Eto wrth fynd heibio daw geiriau Emrys ap Iwan a ddyfynnir gan T. Gwynn Jones i'r cof — "Byddai'n ddewis- ach gennyf i glywed fy nghydwladwyr yn siarad Saesneg gwych na Chymraeg gwael." A oes flordd allan o'n trybini? Y mae gan ein hawdur ateb pendant: ein hunig obaith yw trwy i Gymru "ochfygu'r byd," ac yn anad dim mater o ewyllys yw hynny. Hynny yw, mewn ystyr wleidyddol yn ogystal â llenyddol, y mae'n rhaid sylweddoli'r angen am fyw. Fe'n camarweiniwyd i'r cyfeiriad yma yn y cyfnod wedi'r rhyfel 1914 — 18 — cyfnod pan ddatgysylltwyd bywyd a chelf, a chyfnod a gyfetyb i'r naw-degau yn Lloegr. Mewnol a goddrychol ydoedd mynegiant llenorion bryd hynny; ni cheisient lefaru dros y gymdeith- as o'u cylch na'i dehongli oherwydd na ddymunent gyfîwrdd â phroblem mor gymhleth ac astrus. Ffoi felly i fyd academig, i fyd chwedlau ,i fyd yr ysgrif-i unrhyw fyd nad oedd yr awr honno. Torrwyd y cysylltiad rhwng llenyddiaeth ar y naill law a bywyd a chymdeithas gyfoes ar y llaw arall drwy'r ail-degau, y tri-degau, a hyd heddiw, ac eithrio'r arbrofion a wnaed gan unigolion yma ac acw-beirdd yn bennaf a gyhuddir o fod yn "dywyll." Da felly fwrw golwg dros Glawdd Offa ar waith llenorion yno. Gwelir i'r un peth ddig- wydd ond i'r cylch fynd gam ymlaen. Ceir dadansoddi syml ar gyfraniad W. H. Auden a thrafodaeth feistrolgar ar T. S. Eliot-dau fardd na ellir eu deall heb wybod am gefn- dir cymdeithasol Prydain yn yr ugain mlynedd diwethaf. Yng ngwaith James Joyce ceir datblygiad newydd a ddaeth â ni, yu' 'Ulysses" i fliniau eithaf llenyddiaeth ac yn "Finnegan's Wake" i rywbeth nad yw llenyddiaeth yn yr ystyr arferol, ond hwyrach a fydd yn llenyddiaeth yn y dyfodol. Os gwir hyn, bydd eisiau canonau newydd o feirniadaeth-oherwydd y mae i feirniadaeth fel i lenyddiaeth, diwylliant, a chymdeithas ei datblygiad-rhywbeth byw ydyw. Ceisiais roddi braslun, pur anelwig efallai, o brif, thema llyfr D. Tecwyn Lloyd. Y mae'n rhaid ei ddarllen i werthfawrogi y rhesymu manwl, yr ymdriniaeth drwyadl a geir yn natblygiad y gwahanol theses, yr esiamplau parod a roddir i ategu pob damcan- iaeth — esiamplau o waith ysgrifenwyr hen a chyfoes Cymru a Lloegr ac o fyd arlun- iaeth, gwleidyddiaeth a hanes; yr arddull feistrolgar a blyg yn egniol eiriau a chystrawen i'w phwrpas ei hun. Cyffyrddir â phroblemau beirniadol sy'n awgrymu bod eto lawer yn ôl gan yr awdur-awgrymir hwynt yn unig er cogleisio myfyrdod a symbylu anghyt- undeb a gwrthdystiad. Er gwaethaf gormodiaith achlysurol-na fedrir o'r braidd ei hepgor gan bregethwr ef- engyl gellir rhestri D. Tecwyn Lloyd ymysg beirniaid craffaf a mwyaf treiddgar Cymru heddiw. Y B.B.C., Bangor. ELWYN THOMAS. BYWGRAFFYDDOL ANTHROPOS A CHLWB AWEN A CHÂN, gan O. Llew Owain. Gwasg Gee, Dinbych. Tt. 94. Rhagfyr 1946. 4/ Yn Nantmor ar nos Sul braf yn niwedd Gwanwyn 1914 y gwelais i Anthropos am y tro cyntaf erioed yn dyfod yn dowdow at y capel yng nghwmni crwtyn ifanc a oedd yn ei swyngyfareddu â'i atebion athronyddol pert. Y nos Sul hwnnw hefyd oedd yr unig