Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dro i mi ei glywed yn pregethu erioed. Boddhawyd fi'n ddirfawr drwy ei ddull hollol naturiol o gario'r gwasanaeth ymlaen ac yn enwedig gan ei bregeth swynol yn ystod yr hon y bwriodd wawd deifiol ar ryw ddyn dwl o Sais y digwyddodd iddo gael ymgom ag ef ar Bont Aberglaslyn, ac y mae'r atgof am ei grafiad gyddfol-ysgymygol hwnnw yn flres yn fy meddwl hyd heddiw. Cefais ymgom ag ef ddwy waith neu dair ar rai o heolydd Caernarfon ymhen blynydd- oedd lawer wedi hynny, a'r un mor ogleisiol ei wawd yr oedd y prydiau hynny â'r tro cyntaf y bûm yn ei gwmni. Y tro olaf y bûm yn ymddiddan ag ef oedd adeg Eistedd- fod Genedlaethol Caernarfon yn y flwyddyn 1935, a glafoeriai ei ddirmyg ar ryw ddos- barth o bobl yr un mor finiog â'r tro cyntaf y clywais ef. Oherwydd yr agwedd hon ar ei gymeriad ni ellais erioed feddwl am dano ef ond fel dyn yn hoffi beirniadu'n llym gastiau cymdeithas a gwag-ystumiau gwahanol fathau ar bobl. Er gwaethaf y ffaith. i mi gael golwg ar y dyn rhyfedd hwn yn ei wahanol lyfrau yn nyddiau fy machgendod ac yn yr ugeiniau ysgrifau blasus a arferai eu cyhoeddi yn "Y Faher ac Amserau" y trafferthais eu hyscrapio mewn llyfrau pwrpasol, methais yn lân ag ymddihatru o'r syniadau a goleddais amdano ar ôl dyfod i gyfarfyddiad ag ef; ond rhywfodd ni allwn beidio â'i hoffi a'i edmygu serch sylwi ar yr agwedd hon o'i fywyd. Yr oedd ei bersonoliaeth yn tynnu pawb ato, ac yr oedd ganddo nodweddion arbennig o'i eiddo ei hun na cheffid yn neb arall, ac oherwydd hynny hawdd y gellid digymod â'i grafogrwydd. Bnaswn yn tybio hefyd ei fod yn wr a oedd yn agored i'r pruddglwyf, ac fel pob dyn y gwn i amdano a fydd yn agored i'r gwendid hwnnw (os gwendid hefyd) yr oedd yn ennyn rhyw awydd mewn pobl i geisio ei dynnu allan ar yspaid felly, er mwyn cael y pleser o'i glywed yn diasbedain ei gynddaredd mewn brawddegau bythgofiadwy. Awr anterth llawer dyn yw yr adeg y bydd yn felancolaidd ei yspryd. Tybed a fuasai An- thropos y fath ddyn ag a oedd oni bai ei fod yn agored i'r pruddglwyf? Onid ar adeg o gamhwvl felly yr arllwysid rhai o ddywediadau mwyaf yr oesoedd? Nid oes dim byd cyffelyb i'r pruddglwyf am gorddi meddwl dyn nes dod allan yn frawddegau cain a chofiadwy. Nid oedd ryfedd i feirdd a llenorion yn ogystal â phregethwyr a cherddorion cylch Caernarfon ffoli ar Anthropos ac ymddiried llywyddiaeth y Clwb enwog uchod am gyfnod mor faith iddo, heb gynnig o gwbl ei symud o'r gadair. Cofier ar yr un pryd fod llawer o aelodau'r Clwb yn gewri ymhlith cenedl y Cymry, a rhai ohonynt yn llawer mwy dynion nag ef o ran eu galluoedd. Nid oes dim ond personoliaeth arbennig yn cyfrif fod hyn wedi bod yn bosibl. Yr oedd ef fel Dr. Johnson yn eu canol yn gallu eu trin a'u trafod fel y mynnai, a phopeth yn symud ac yn gwegian yn ôl arwydd ei fys neu ystum ei wyneb. Yr oedd fel rhyw echel neu werthyd y troai popeth ynglyn â'r Clwb o'i hamgylch. Gyda llaw clywais ddywedyd droeon yr âi llawer o aelodau'r Clwb yn un swydd gwaith i wrando arno ef yn bwrw jôcs waeth pa mor boblogaidd a fyddai y gwr a wahoddid i ddarlithio. Pwysicach yn eu golwg hwy oedd codiad ei fys, ebychiad ei lais, crafiad ei wddf, ei osgo a'i oslef, ac ar lawer adeg yr oeddynt yn mwyn- hau hynny yn llawer mwy na thraethiadau llenorion neu feirdd pwysig o'r Brifysgol. Clywais ddarfod i un o brif-feirdd y genedl a aethai i'r Clwb i annerch unwaith fynegi nad âi ef yno wedyn i ddarlithio gan iddo sylwi fod ffraethebion a dywediadau doniol Anthropos yn cael mwy o gymeradwyaeth na'r hyn a draethid ganddo ef. Diamau fod hyn yn wendid perthynol i lawer o'i aelodau, yn enwedig pan fyddai ei lywydd yn ei afiaith. Arno ef yr edrychai pob llygad ac y clustfeiniai pob clust. Onid oes perygl i ogwydd neu hynodrwydd un dyn gymylu gryn lawer ar waith cymdeithas neu glwb o'r fath? Beth bynnag yw barn rhai ohonom am berthynas Anthropos a Chlwb Awen a Chân yn ei nerth neu yn ei wendid, ni all neb, mi goeliaf, ddarganfod nac anaf na chlais ar gron- icliad manwl fy nghyfaill ar Anthropos a Chlwb Awen a Chân. Bu fel Boswell i Dr. Johnson yn ei ffyddlondeb i'r gwr rhyfedd a oedd yn gadeirydd iddo a llwyddodd yn