Skip navigation

Y Fflam

 - 

Cyf. 1, rh. 2 Calanmai 1947

Anthropos a chlwb awen a chân. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
ddios i'w ddangos allan yn wir lun a delw ei berson, a bydd pob dyn a dynes o ran hynny
(er na châi yr olaf a enwyd hawl i roddi ei phig i mewn yn y Clwb) ar eu hennill o
ddarllen y gyfrol. Llwyddodd i roddi darlun byw, hoyw a gloyw o'i wrthrych a oedd
yn un o'r dynion mwyaf hynod yn ei ffordd a welodd Cymru erioed, a hwnnw wedi byw
a bod mewn un o'r trefi hynotaf o ran ei chymeriad a'i nodweddion yng Nghymru, ac
wedi troi ymhlith gwŷr enwocaf ein cenedl mewn unrhyw gyfnod-gwyr megis Dr. T.
Gwynn Jones, Dr. T. Parry-Williams, E. Morgan Humphreys, Alafon, y diweddar Syr
John Morris Jones, Dr. R. Williams Parry ac eraill.
Llongyfarchaf yr awdur am lwyddo ohono i gyhoeddi llyfr mor ddarllenadwy a di-
ddorol am un o'r clybiau hynotaf a gynhaliwyd yn y wlad er dyddiau Dr. Johnson, ac
yn ei ffordd nid oedd y Tai Coffi yr âi Dr. Johnson iddynt yn rhyfeddach na Chlwb
Awen a Chân Caernarfon.
Croesor.
BOB OWEN.
CREFYDD
CREFYDD YNG NGHYMRU, gan y Parch. J. H. Griffith, M.A., Dinbych. Rhif xii
yng Nghyfres Pobun Gwasg y Brython. 2s.
Pwysig a gwerthfawr yw pob datganiad cynhwysfawr a meddylgar ar gyflwr Cristnog-
aeth yng Nghymru gan un o'i harweinwyr cyfrifol, ac felly pwysig a gwerthfawr yw'r
llyfr hwn. Mae'n olau ac yn onest ac yn broffwydol.
Ar yr un pryd mae'n braidd yn unochrog. Ni theimlaf fod yr awdur yn hollol deg â
Christnogaeth Cymru Fu yn yr adran gyntaf o'r llyfr, yr adran hanesyddol. A barnu
wrth ein hen gyfreithiau, nid cwbl ddiffrwyth oedd had yr Efengyl yng Nghymru; ac os
cododd "esgyb anghyfiaith, diffaith, diffydd" i fri a dylanwad, fe ymddangosodd hefyd
broffwydi i wrthdystio. Credaf y dylai Mr. Griffith fod wedi rhoddi mwy o sylw i'w
gyd-broffwydi yn yr oesoedd a fu. Ond rhaid dweud yn edmygus ei fod yn gwybod i
dim sut i ddefnyddio'r chwip a'r fflangell. Dyma rai o'i ddyfarniadau cryno. Ar yr
Eglwys cyn dyfodiad y Normaniaid: "Lle'r amlhâ offeiriadaeth y prinhâ gras." Ar
Gristnogaeth yr Oesoedd Canol: "Nid afon ddofn rhwng ceulannau mohoni, ond dwfr
bas, bas, dros wyneb y wlad." Am y gwrthdaro gwaedlyd rhwng Pabyddion a Phrotes-
taniaid: "Y gwir ydyw nad Cristionogaeth mohoni y naill ochr na'r lla.ll. Am yr Eg-
lwys Wladol ar ôl y Diwygiad: yr oedd "fel cyfundrefn yn ormesol, ceidwadol a gwrth-
Gymreig." Am yr Hen Ymneilltuwyr: "Ceisiasant ddehongli bywyd crefyddol yn nher-
mau unigoliaeth yn unig." Am y cyfnod ar ôl y Diwygiad Methodistaidd: "Yr oedd
mwy o flas ar hollti gwelltyn athrawiaeth nag ar ddatod yr amgylchiadau a wnâi fywyd
yn hunllef i'r cyfìredin." Ar y cyfan y rhan olaf o'r adran hanesyddol yw'r rhan orau:
mae'n fywiog ac yn dra diddorol ac yn fwy cytbwys.
Wrth sôn am Gristnogaeth Cymru heddiw (yn dechrau gyda'r Rhyfel Mawr Cyntaf)
deil yr awdur yr un mor llym yn ei feirniadaeth. Dengys yn huawdl lygredd a rhagrith
Cristnogion wrth "daflu cochl crefydd dros ryfel" (yng ngeiriau'r Prifathro Thomas
Rees a ddyfynnir ar td. 36). A'r canlyniad: "Trwm oedd y barrug ar Winllan yr Iôr";
ac yn y cyfnod a ddilynodd y Rhyfel ni chododd "crefydd gyfundrefnol" ei llef "yn er-
byn gormes cyfalaf na thros werth dyn." Yn yr adran hon ceir casgliad gwerthfawr o
ddyfyniadau o'r cyfnodolion enwadol, ac y mae'n amlwg bod yr awdur wedi darllen yn
helaeth ac yn ddeallus. Disgrifia'r newid tarawiadol yn ymarweddiad arweinwyr yr Eg-
lwys a amlygwyd ar ddechrau'r Ail Ryfel Mawr. Yn lle'r hen frwdfrydedd rhyfelus
mynegwyd llawer mwy o amheuaeth a hyd yn oed o wrthwynebiad, ac estynnwyd (ar
bapur, o leiaf) nawddogaeth yr Eglwys i'r milwyr ac i'r gwrthwynebwyr cydwybodol
fel ei gilydd. Dyry Mr. Griffith ddigon o sylwadau craff (ynghydag ystadegau a dyfyn-
iadau a ffeithiau) ar y cyfnewidiadau cymdeithasol a ddaeth ar Gymru yn y cyfnod diw-
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.