Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yng Nghymru a Chymraeg, dewisodd Syr Idris Bell ofyn i Mr. D .Tecwyn Lloyd ei roddi inni mewn gwisg Gymraeg. Mae'n dda gennyf 'fod Cymru eisoes wedi gwerthfawrogi'r "beau géste" hwn drwy ymddangosiad y llyfr yng nghyfres boblogaidd y Clwb Lfyfrau Cymraeg. Y diweddar Prosser Rhys, mi gredaf, a drefnodd hynny. Wrth ddisgrifio ei deithiau rhyfedd, dengys Syr Idris ei fod yn sylwedydd bywiog a chynnes. Mae ganddo diddordeb dihysbydd mewn dynion, a hyn sy'n cyfrif am ei lwyddiant fel disgrifiwr a storïwr. Yr un yw cyfrinach ei lwyddiant hefyd wrth gyf- lwyno inni o stôr ei wybodaeth am y papyri: fe'n tywysir ganddo i gael cipdrem ar fyw- yd dynion yn yr Aifft mewn cyfnodau cynnar. A chipdrem yw hon, cofier, sydd yn aml yn ganlyniad ei ddarganfyddiadau ei hun. Ni ddylai gwyleidd-dra'r awdur ein dallu rhag gweld rhyfeddod rhamantus y ffaith hon. Mae'n wir y dywed unwaith, wrth ddisgrifio'r daith o Medinet el-Ffaiiŵm i Gom Wshîm, fod yr adar iddo ef "yr un mor ddiddorol (â'r dynion) a llawer tlysach". A chyda llaw, mae'r awdur yn dipyn o adarwr, mae'n am- lwg. Ond dengys llawer disgrifiad mai dynion yw ei wir ddiddordeb; er enghraifft, yr hanes ar dud. 88 am ferch i dyddynnwr Eifftaidd a gafodd ei gwenwyno: "Teimlais ryw don o dosturi dwys; am foment deellais, gellais, yn wir, gyd-deimlo'r hwrdd sydyn a bair i'r cenhadwr adael ei deulu a'i gartref a bywyd ei hun er mwyn gwaredu onid ychydig o'i gyd-ddynion. A dyna'r eneth yma, yn swatio ar y tywod, yr oedd fel petai'n corffori ynddi ei hun ei holl hil, y ffelahîn Eifftaidd". Argraff bur wahanol, wrth reswm, a wnaed ar yr awdur gan ferched Cairo. Hoffaf fywiogrwydd ei sylwadaeth am y "genethod llawen eu gwisg o'r Lefant": "anodd yw credu ym modolaeth yr enaid wrth edrych ar eu hwynebau lliwgar ac i'w llygaid mawrion synhwyrus." Anos fyth, yn 61 fy mhrofiad i, yw credu hynny am rai o ferched Cairo pan welir hwy yn per- fformio'r fol-ddawns synhwyrwyllt! Ceir disgrifiad campus o Tel el-Amarna, "dinas y brenin heretig". Ond ni chytunaf â'r cyfieithiad o Achenaten fel "y duwiol i'r Cylch"; gwell gennyf "y mae'r Cylch yn ddedwydd". Hoffwn wneud sylw neu ddau hefyd ar y nodiadau hynod fuddiol a roir ar y diwedd. Dywedir ar dud. 118, "Fel yn y wyddor Semitig, nid oedd llythrennau i ddynodi llafariaid yn yr ysgrifen frodorol". Gwir hyn, ond byddai'n wiw gan Eifft- egwyr gael rhywbeth fel y pwyntiau Massoretaidd a arferwyd mewn Hebraeg o'r chweched neu'r seithfed ganrif O.C. ymlaen. Rhaid diolch am gymorth y Gopteg, er hynny; fel yr eglura Syr Idris. Ai peth cyffredin yn yr Hen Aifft ydoedd priodas rhwng brawd a chwaer? Dyma'r haeriad a geid ar dud. 116: "Eithr yn yr Aifft caniateid priodas rhwng brawd a chwaer, ac yr oedd hyn yn beth cyffredin iawn". Awgryma'r cyfeiriad at Gân y Caniadau fod yr awdur yn cynnwys cyfnodau cyn y cyfnod Groeg-Rufeinig o fewn maes ei haeriad. Ymddengys bod tystiolaeth gref o blaid yn y cyfnod diweddar. Ond beth am y cyf- nodau cynnar? Heriaf Syr Idris, neu unrhyw un arall, i brofi bod yr arfer yn "gyff- redin iawn" cyn amser y Ptolemiaid. Er enghraifft, dyna Gân y Caniadau yn cyfeirio at gariadferch neu wraig fel "chwaer"; ceir yr un peth yn union yn y Cerddi Serch Eifict- aidd. (Cymharer efelychiad Davies Aberpennar yn ei gân "Diferyn o Chwys", Cinio'r Cythraul, tt. 19-20). Ond os oes unrhyw beth yn gwbl amlwg yn y cerddi Hebreig ac Eifftaidd, y flaith NAD chwaer a olygir ydyw hwnnw. Beth am Osiris ac Isis? Brawd a chwaer oeddent hwy, ac yr oeddent yn briod. Ond cofier mai duwiau oeddent, ac yr oedd hyd yn oed y Groegiaid yn barod i gredu pethau rhyfedd am eu duwiau, megis eu bod wedi bwyta Pelops ar ôl ei ferwi mewn sospan. A pheth arall, mewn perthynas i Osiris ac Isis, mae'r hen gwestiwn yn codi, Pwy oedd gwraig Cain? Efallai fod tyst- iolaeth yn hanes y teulu brenhinol yn y Ddeunawfed Teyrnlin. Ond hanner-chwaer, ymddengys, oedd Hatshepswt i Twthmosis III, ac nid chwaer gyflawn; a dylid ystyried posibilrwydd o'r fath yn aml yn wyneb yr arfer brenhinol o gadw harîm mawr. Mae Erman ýn enẁi Ahmose ac Ahmose-Nefertere fel enghraifft bendant, ac efallai i'r arfer gael ei ganiatau ymhlith y teulu brenhinol. Ai hyn a barodd ddefnyddio'r gair 'chwaer'