Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn gyffredin i olygu "cariadferch" neu "wraig"? Mae'n haws credu mai defnydd met- c.fìoraidd c'r gair sydd yn yr arfer cyffredin ohono. Am fod "chwaer" yn dynodi rhyw- un agos ac annwyl, estynwyd cymhwysiad y gair. Cymharer y ffordd y bydd plentyn yn galw pob gwraig yn "Fodryb". Mae "chwaer" a "brawd" yn eiriau hawdd i'w cym- hwyso mewn ystyr letach, fel y gwelwn yn y Testament Newydd. Metaffor ac nid ar- feriad cymdeithasol cyffredinol sydd felly'n gyfrifol. (Y chwaer a sgrifennodd "Fy Chwaer Efa" a roes imi'r syniad hwn.) Haedda Mr. D. Tecwyn Lloyd ei ganmol a'i edmygu am safon awenus ei gyfieithiad. Mae gwaed yr iaith fyw yn llifo drwy wythiennau'r gwaith; ond ar yr un pryd men- trodd fathu termau newydd, a hynny'n rhwydd a llwyddiannus. Mae lle i ddadlu yn erbyn ei drawslythreniad o'r ieithoedd clasurol. Fel rheol rhydd eiriau Groeg yn yr orgraff Gymraeg (fel y dylid i raddau helaeth), ond nid yw'n hollol gyson. Ceir ganddo "Sophocles" a "Soffocles" er enghraifft. A yw'n iawn i Gymreigio ffurf geir- iau Lladin ar batrwm seinyddol? Mae rhywbeth i'w ddweud dros "Paladiws". Ond mae "Awreliws" yn mynd ymhellach; ac yn wir mae'n anodd goddef "Fflawiws"— er bod cysondeb canmoladwy yma. Tueddaf i gredu erbyn hyn mai gwell yw peidio â newid y Lladin o gwbl. Wedi'r cyfan, nid trawslythrennu yr ydys yn awr o wyddor arall. Mae'r ffurfiau'n ymddieithrio gormod o'u gwneud yn gwbl seinyddol. Nid yw Mr. Lloyd bob amser wedi osgói ymadroddion chwithig, megis "crefftwaith ceinwych a "grasusol", (t. 23) "mae'n ddigon posibl y gall fod Achenaten ei hun yn ofni" (t. 78), "ni wyddid am Gôm Ishgaw fel "man 'archaèolegol'" (t. 97) a "gwerthwyd hwy yn es- gud i fasnachwyr a hwythau i brynwyr Ewropeaidd" (t. 97). Ond ar y cyfan y mae ei waith yn llwyddiant ysgubol. Mae'r darluniau hwythau yn rhai da, yn enwedig y ddau sy'n dangos wynebau'r plant a'r bechgyn. Gwelir Syr Idris Bell ei hun yn y darlun yn wynebu tud. 43. Ond gobeithio y rhydd yn y gyfrol nesaf ddarlun a fydd yn dangos ei wyneb siriol. CYFROL II Mae prinder gofod yn gomedd manylu ar yr ail gyfrol, ond digon yw dweud bod hanes y daith ymlaen i Medinet Habw ac wedyn yn ôl yn flasus odiaeth. Traetha Syr Idris ar bwnc y mae'n bennaf awdurdod amo-gwrth-semitiaeth yn Alecsandria yn y ganrif gyntaf. Rhydd ddarnau cyffrous o 'Actau Isidorws', yn cynnwys y cyfeiriad at y Bren- in Agrippa fel "Iddew dwy a dimai." Mae "obiter dicta" yr awdur yn ddanteithion gwiw hefyd. Edifarhaodd, mae'n wir, am ei fethiant i fynd ymhellach i'r deau. Gwnaeth yn iawn wrth edifarhau. Canys pwy a draetha'n iawn am ogoniant Philae ac Abw Simbel? J. GWYN GRIFFITHS. DRAMA Y FARGEN: Comedi mewn Un Act, gan D. O. W. Harris. Y cyfieithiad gan W. G. Richards. Dramâu'r Dryw. 1/3. Pobol agos-atom o ardaloedd diwydiannol y De-top Aberdâr, dyweder, yw'r ddwy ferch a'r tri gwr sydd gan D. O. W. Harris yn ei gegin i'n diddori. Nid oes na hud na lledrith o gwmpas hon. Mae'r glowr ifanc Dan yn union fel arweinwyr yr Hen Desta- ment neu Gadfridogion o Rufain yn gwneud bargen â Duw: os yw ei Dduw yn barod i'w achub o uffern torri glo-fel y mae hi ar lowyr heddiw, yna y mae yntau'n barod i wneud "beth bynnag a fynni." Ac ychwanega, "Dyma fi'n rhoi fy ngair iti." Rhag- rithiwr yw, medd Idwal-ac nid yw'n bell o'i le-ond, yn lle wynebu Dan, mae'n dwyn y glec i'w chwaer Eiddwen sydd i'w briodi, ac yntau'n dianc i'r gwely. Hen gymeriad campus yw Ta'cu, ac nid arno ef mae'r bai fod Mr. Harris yn hoff o sŵn ei "wits" a'r clebran diddiwedd a geir yn ei hen atgofion am Gaerdydd. Yr oedd lle i beth o hwnnw, oherwydd mae'n help i'r hen wr sylweddoli y byddai'r Dan yma wedi'r cyfan yn foi y gallech rannu lle i'ch traed ar y ffender ag ef yn hawdd iawn. Rhwng Mrs. Jenkins a