Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU PLANT O BERYGL I BERYGL, gan Meuryn. Gwasg y Brython. 1946. Tt. 88. Pris 3/ Yn y llyfr hwn oair ychwaneg o anturiaethau Deiniol Morgan yn yr Affrig. Rhoir hanes Deiniol Morgan gan yr awdur yn ei lyfr Ar Lwybrau Antur. Mae'r ystorïau yn addas i blant droa naw oed, ac fe'u sgTifennwyd mewn Cymraeg syml. Trwy gyfrwng y llyfr hwn gellid cyflwyno gwersi rhagarweiniol ar natur a daearyddiaeth yr Affrig. Mae'r print yn addas i blant, a rhwymwyd y gyfrol i chloriau caled. Gan fod y cyfandir hwn mor gyf- oethog o wahanol liwiau naturiol, trueni nad yw'r darluniau sydd yma yn ddarluniau lliw. Glanrafon, ger Corwen. STEPHEN E. DAVIES. MEIC, gan Joseph Jenkins. Gwasg "Y Brython," Lerpwl, Ionawr, 1945, tt. 62, pris 1/3. Dwsin o storiau digyswllt am ddireidi bechgyn sydd yn y gyfrol hon. Ei bod y stor- ïau bob un yn annibynnol ar ei gilydd, yr un yw'r cymeriadau ynddynt, a dyry hynny ryw- faint o unoliaeth i'r llyfr. Patrwm safonol y math hwn ar sgrifennu yn Gymraeg ydyw Tegla Davies. Er nad yw'r storiáu hyn yn cyrraedd tir uchel 'Nedw,' gto maent yn fires ac yn fywiog, ac yn siŵr o ddiddori plant. Sonnir mewn un stori am fechgyn yn chwarae mewn eroplen, ac yn sydyn yn cael eu cipio i ffwrdd ynddo dyma anturiaeth hynod afael- gar. Ceir nifer helaeth o ddarluniau da gan W. Mitford Davies. STEPHEN E. DAVIES. YR HEN WRAIG BACH A'I MOCHYN, gan Ivor Owen. Gwasg Aberystwyth. Pris 5/6. Y miae'r rheini o'r plant a gafodd 'Llyfr Mawr y Plant' yn gyfarwydd â stori'r mochyn hynod hwn. Trefnwyd y stori yn 'Llyfr Mawr y Plant', fel y cofir, ar ffurf drama fer, ond yma yn llyfr Ivor Owen, fe adroddir yr hanes rhyfedd ar ffurf stori, a hynny mewn print bras. Grea- yn fod peth oam-brintio ar y stori. Prif atyniad y gwaith, wrth gwrs, yw'r darluniau, a eill yn hawdd lonni llygad a chynhesu calon plentyn. Gwelir yma ddawn Ivor Owen ar ei gorau fel darlunydd, yn fodernistig, ao eto'n uniongyrohol a syml. Lliwiwyd y darluniau yn gain od- iaeth, a champ yr airgraffwasg yn grefítus ar y platiau llawn tudalen eu maint, un darlun ar gyfer pob tudalen stori. Yn wir y mae un o'r darluniau ar blat dros lathen o hyd. Effaith y darluniau byw hyn, gallwn dybied, fyddai de.ffroi dychymyg plentyn, a pheri iddo geisio gwneud lluniau drosto'i hun. Dengys y llyfr hwn yn ddiamau yr hyn sydd yn bosibl gyda chydweithrediad rhwng crefft yr arlunydd a'r argraffwasg i ddarluniadu llyfrau a fo'n denu eylw plant a chadw eu diddordeb. Y mae Yr Hen Wraig Bach a'i Mochyn" yn gyfraniad i ddiwylliant Cymru. EUROS BOWEN. NOFELAU GWR Y DOLAU, gan W. Llewelyn Williams. Argraffiad Diwygiedig wedi ei olygu gan Thomas Jones, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Tt. 142. 1946. 4/ Fel enghraifft o lyfr sy'n bortread cywir o bersonoliaeth yr awdur ei hun ac o'r gymdeithas y maged ynddi, anodd fyddai curo "Gŵr y Dolau" gan W. Llewelyn Williams. Maged Llewelyn Williams yn Brown Hall, fferm ragorol yn wynebu holl arddunedd Dyffryn Tywi- y dolydd gwaatad gyda glannan'r afon, y perthi a'r coedlannau irion, y derw brenhinol ar barcan Abermarlaia, Glan Brydan, Llwyn Brain, Tanrallt, Glan Sefin, ac eraill o'r hen blas- au, bronnydd gwyrddion Llaneadwrn ar yr ochr dde i'r dyffryn, a'r Mynydd Du yn y pellter bob can ar yr aswy; a chestyll Dinefwr, y Dryalwyn, a Oharreg Cennen "lie bu darstain dig barwniaid," heddiw yn wylwyr mud uwchben y cyfan. Dyma wlad y byddai rhyw Walter Scott o Gymro yn ei afiaith yn gwau hanes ei gorffennol yn rhamantau cyffrous a lliwgar. Ae yng nghanol y wlad hon, yn etifedd popeth y gallai Cymro ag unrhyw falchder yn aros ya ei enaid ymhyfrydu ynddynt,—yn hanu o hen gyff Ymneilltuol parchus a rhai o'r "hoel- ion wyth," arwyr ●i genedl yn acihlysurol, yn aros dan gronglwyd ei rieni; yn un o deulu