Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gar; a'r gwawdlun o Mr. Rowlands y Ciwrad "a'i wddwg llyncu pwdin" yn ddigrif, mewn gwirionedd, er hwyrach fod ynddo beth gormod o atgof rhyfel y degwm i fod yn gwbl ddifalais. Yr oedd Llewelyn hefyd, yn hanesydd o awen a dychymyg, â'i gariad diball at Gymru yn gymhelliad ychwanegol at bob dim a wnâi. Meddai ym- hellach, ar arddull rugl, esmwyth y newyddiadurwr. Hwyl oedd sgrifennu iddo ef; a heb ofal digonol gall hynny fod yn demtasiwn, ac yn fagl. Ymfalchiai mewn hen eiriau ac ymadroddion llafur gwlad, a thrwy hynny roi gwaed newydd yn yr iaith. Diolch i Mr. Tom Jones am ei waith doeth fel golygydd yn peidio ag ymyrryd dim â'r rhain, ac am ei eirfa werthfawr ar y diwedd. Ond ysywaeth, ni chymerodd yr awdur y trafferth gofynnol i berífeithio doniau cyn- henid. Ar wahan i athrylith naturiol Daniel Owen, ni wnaethai'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru ryw lawer o wir ymdrech i feithrin y grefft o adrodd stori. A rhaid dweud na wnaeth Llewelyn Williams ryw lawer i wella'r diiIyg. Wado bant, ffwrdd â hi yn y ffordd rwyddaf a wnâi, gan ymddiricd y gweddill i'w asbri naturiol a'i hiwmor cyfoethog ei hun. Nid oes yma gynllun na phatrwm a weithiwyd allan ymlaen llaw i drin arno edafedd drud bywyd. Defnyddir y ffordd nesaf i law, cyd y gellir cadw rhyw benllinyn i'r stori, a'i chael i gwlwm gweddol o deidi tua'r diwedd: dyddiadur Gwladus a'i llythyron at Bob ei brawd yn Ne Affrica; ambell gân megis honno i'r Fronrhuddyn sy'n atgoffa dyn am stoc-in-tred y bardd eisteddfodol; stori Malen Sics Props; ac ambell hen Ddarbi megis honno am Harri'r Crydd "wedi darfod" a fu'n rhedeg ei hun ma's o wynt i fyny ac i lawr Dyffryn Tywi, ac ambell ddyffryn arall, yn ddiau, er ymhell cyn i'r Llew gael ei eni. Diau mai prysurdeb llawn ei fywyd fel newyddiadurwr yn gyntaf, ac yna fel bargyf- reithiwr, hanesydd a seneddwr o bwys i Gymru a gyfrifai am lawer o'r diffygion hyn. Ond er cydnabod gwendidau yr oedd yn Llewelyn Williams athrylith a chynhesrwydd dynoliaeth fawr a drôi'r cyfan a gyffyrddai yn egni byw symudol o dan ei ddwylo. Petasai modd i Ragluniaeth fod wedi trefnu iddo allu rhoi ei ddoniau disglair i lenydda'n Gymraeg, yn hytrach na'i orfodi i hel i fywoliaeth yn Philistia, byddai Cymru wedi bod yn fawr ar ei hennill. Yr oedd defnyddiau crai y gwir lenor creadigol yn helaeth yn ei feddiant. Yr unig beth yn eisiau oedd y pensaer, a'r crefftwr ymwybodol ymroddgar. Diolch i Wasg Aberystwyth ac i'r golygydd diwyd-am y gymwynas o gael gweithiau Llewelyn Williams fel hyn o'r newydd i roi mwynhad pellach i Gymru Fydd. Abergwaun. D. J WILLIAMS CHWALFA, gan T. Rowland Hughes. Gwasg Aberystwyth. 1946. Tt. 244. 7/6. Gyda "Chwalfa" y daeth T. Rowland Hughes i oed fel nofelydd. Sylweddolaf ar un- waith mor haerllug nawddogol y swnia'r geiriau; ond nid yn anystyriol y'i sgrifennais. Canys yn y llyfr hwn y cymerth ef am y tro cyntaf ddefnydd sy'n deilwng o'i fedr fel sgrifennwr. Mae crefftwaith sgrifennu Mr. Hughes wedi'i berffeithio ers blynyddoedd bellach, drwy ymarfer â llawer ffurf ar lenyddiaeth; erbyn hyn mae ar unrhyw waith o'i eiddo y naturioldeb hwnnw y gellir pasio heibio iddo'n hollol ddisylw, ond na chyrhaeddir mo- hono heb ymdrech ddiwyd. Un nam sydd ar ei ryddiaith: mae ef yn dilyn yr esiampl drwg a roddodd John Morris Jones wrth or-ddefnyddio'r ffurfiau cryno ar y ferf. Ceir ymdriniaeth lawn â'r mater gan Mr T. J. Morgan yn ei adolygiad ar "Ffair Gaeaf" yn y "Llenor": ond nid oes angen ysgolhaig i ganfod nad yw Mr. Hughes yn dweud ei feddwl wrth sgrifennu (tud. 84): "I'r caets â hwy Ysgydwad i fyny, ac yna i lawr, i lawr, mewn rhuthr merwinol o swn ac awyr. Neu, ai i fyny yr aent?" "Ai i fyny y byddent yn mynd?" yw ystyr y frawddeg ddiwethaf, ond "Ai i fyny yr oeddynt yn mynd?" a olygai Mr. Hughes, a dyna'r geiriau y dylasai eu defnyddio. Ar wahân i'r un nam golegaidd yna ar ei arddull, mae rhyddiaith Mr. Hughes yn agos iawn i berffeithrwydd; ond am ddefnydd ei nofelau, teimlaf fod goleuni i'w gael mewn