Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

geiriau o eiddo Edward Ifans yn y nofel hon: "Mi fedar saer cyffredin lunio dodrefnyn alian o brcn hawdd i'w weithio, ond mae isio crefItwr i lunio un allan o hen foncyff mawnog, ond oes?" Pren hawdd i'w weitho a fu gan Mr. Hughes hyd at "Chwalfa": cymerodd gynllun neu syniad yn fan cychwyn, a datblygu hwnnw yn fedrus iawn; ond mae llawer o werth y tair nofel gyntaf yn tarddu o'r ffaith fod cyn lleied o sgrifenwyr. Cymraeg yn medru adrodd stori'n ddigon syml i fod yn gredadwy. Er cystal storîau yw "O Law i Law" a "William Jones," ac er cystal fflachiadau o bortread sydd ynddynt, ni chredaf fod ynddynt weledigaeth arbennig ar unrhyw gymeriad. Dealler nad beio Mr. Hughes am hynny yr wyf: da y gwnaeth ef yn bwrw prentisiaeth mor llwyr ar y pren hawdd cyn mynd yng ngafael â'i foncyff mawnog. Canys yn "Chwalfa" ceir ganddo bortread cyflawn o gymeriad-cymeriad teulu'n hytrach nag unigolyn-fe1 y lluniwyd ef, neu'n gywirach efallai, fel yr amlygwyd ef, gan streic fawr y chwarelwyr tua dechrau'r ganrif hon. Aeth llawer o amser ac ymarfer i baratoi Mr. Hughes fel llenor; aeth llawer o amser hefyd i baratoi'r hanes fel defnydd llenyddiaeth-naturiol yw cymharu'r hanner canrif sydd rhyngom ni heddiw a'r streic â'r hanner canrif a oedd rhwng Tolstoi ac 1812 pan sgrifennodd ef "Rhyfel a Heddwch," a naturiolyw cymharu'r defnydd llenyddol a wnaed o'r streic gan T. Gwynn Jones yn "Gorchest Gwilym Bevan," yn 1900, a chan Mr. Hughes yn 1946. Stori antur yw "Gorchest Gwilym Bevan," a defnyddir y streic er rhoi cyfie i arwriaeth gyffrous personau'r stori; datganiad o weledigaeth yw "Chwalfa," a dywedaf hynny er mai unochrog, mewn un ystyr, yw'r weledigaeth; â'r gweithwyr y mae holl gydymdeimlad Mr. Hughes, lawn cymaint â'r Dr. Gwynn Jones, a chyff gwawd yn unig yw'r Stiward, Mr. Price-Humphreys, iddo ef. Yn ôl pob un o'm canonau beirn- iadaeth, dylai hynny fod yn wendid yn y nofel, canys gogoniant y nofelydd yw iddo dde- all a charu ei holl gymeriadau. Gwendid felly, yn "Yr Ogof," yw fod Caiaffas yn gym- aint o fwci papur; ond yr wyf yn rhyw gredu y bydd raid ystwytho ychydig ar y canonau er mwyn chwarae teg â "Chwalfa." Hwyrach y buasai mwy eto o fawredd ynddo pe cawsem well golau ar y Stiward; ond wedi'r cwbl darlun yw hwn o deulu'r chwarelwr, ac i'r teulu hwnnw, bwci oedd y Stiward, nid dyn a chanddo enaid fel hwy eu hunain. Ei weithredoedd, er mor ystrydebol fyddent, sy'n bwysig i'r llyfr, nid troeon ei feddwl. Yng ngoleuni'r ffaith mai darlun o'r teulu yw'r llyfr y mae barnu pob rhan ohono, a'r cwestiwn i'w ofyn yw, A yw'r rhan hon yn cyfrannu at y darlun? Wrth ddarllen "Chwalfa" am y tro cyntaf, yr oeddwn yn tueddu i feddwl fod ynddo ormod o hanes Llew ar y môr; wrth ei ail-ddarllen, gwelwn fod yr hanes hwnnw'n angenrheidiol er mwyn dangos, drwy'r sgwrs ar ei diwedd, gymaint o chwarelwr oedd Llew, er mai am dri mis y bu'n gweithio yn y chwarel ac iddo dreulio bron cymaint â hynny ar y môr. Yr un modd gyda hanes Dan yn swyddfa'r papur newydd, gyda'i lenydda a'i garu a'i ddi- ota; yr wyf yn llai sicr yma nad yn yr hwyl o greu ffigur comig Ap Menai yr ysgubwya llawer o'r defnydd i mewn, ond yma eto mae holl fwhwman Dan yn rhan o'r ansefyd- lowgrwydd a ddaeth dros fywyd y teulu oll gyda'r streic. Rhagoriaeth na ddylid ei phasio'n ddisylw yn "Chwalfa" yw ei fod yn gadael Dan heb ei "achub" ar y diwedd; ynddo ef, mae'r streic wedi cael effaith barhaol, lle y mae'r gweddill o'r teulu'n dod yn ôl i rigol ddigon tebyg i'r hen, er bod ei hamgylchedd dipyn yn wahanol. Wrth geisio pwyso gwerth rhyddiaith Gymraeg, mae gennyf faen prawf sydd efallai braidd yn fympwyol, ond eto'n ymarferol — a fyddwn yn barod i arddel y gwaith mewn cyfieithiad yng ngwydd llenorion Saesneg? Er cystal cyfraniad oedd nofelau eraill Mr. Hughes i lenyddiaeth Gymraeg, ni ellais deimlo y byddent deilwng o le ymhlith nof- elau o ieithoedd eraill; ond mae fy nheimlad am "Chwalfa" 'h hollol wahanol. Dichon nad yw hynny wedi'r cwbl yn dystiolaeth i'w fawredd llenyddol; mae'n sicr ei fod yn dystiolaeth i'w aeddfedrwydd. Aberystwyth. DAFYDD JENKINS. Y GELYN MEWNOL, gan Melville Richards. Llyfrau'r Dryw, Llandebie. Tt. 92. 1946. 3/6. Dyma'r nofel gyffrous, fel y dywaid y 'blurb' y tu mewn i'r clawr, a ddyfamwyd yn orau yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1943, o dan feirniadaeth Mr. J. Walter