Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORIAU FFARWEL WLEDIG (Rhamant am Facedonia), gan Cynan. Gwasg y Brython, 1946 Tt: 62. 3/ Yn ôl yr hyn a geir ar du mewn siaced liwiog y llyfr, "stori ddiarffordd yw hwn am anturiaethau cyffrous milwr o Gymro ymhlith tylwyth o Romani'r Balcanau." Y mae'n wir ei bod yn stori ddiarffordd, ond wrth ei darllen nid yr anturiaethau a ymargraffodd ar fy meddwl fwyaf, ond hyfrydwch tawel a ddaeth o fwynhau idyl am serch ifanc ym- hlith pobl naturiol, radlon. Cyfleir y rhamant ar ffurf llythyr hir i'r awdur, gan Gwilym Bowen, bachgen o Gymro, a ddiflanasai yn 1941, a'i deulu'n credu ei ladd ym Macedonia. Yn y llythyr hwn a ysgrifennodd bedair blynedd yn ddiweddarach, rhydd ei hanes, ac awgrymu paham na ddychwel mwy i wlad ei dadau. Wedi ei glwyfo, fe'i hachubasid a'i noddi rhag y gelyn gan bennaeth y Fflachiaid, ac yntau'n Gymro. Ymhen hir a hwyr, rhydd hwnnw ei hanes rhamantus ei hun. Dych- mygol yw'r stori, y mae'n debyg, ond y mae'n wir fod Dafydd Morris wedi ymuno â'r R.A.M.C. ynl916, a diflannu'r flwyddyn wedyn. O'r flaith hon, llwyddodd Cynan i weu rhamant dlos am ddwy genhedlaeth sy'n gwirio hen ddarogan Romani'r Balcanau: Heddwch a'i ddoniau A ddaw yn nyddiau Deulyw pryd golau O'r Gorllewin. Y mae'n amlwg bod swyn Macedonia'n aros yn gryf yng nghof Cynan; ceir yr un af- iaith yma ag yn "Monastir." Tebyg iawn hefyd yw Clöe a Charita; ai'r un ydynt, tybed? Hyfrydwch y wlad heb ddim o'i hacrwch, a geir yma megis yng ngherddi hir- aeth y beirdd Cymreig. Fel y gellir disgwyl gan ẃr fel Cynan, disgrifir y wlad a'r bobl a'i harferion yn fyw a phrydferth, e.e. y defodau ynglŷn â Gwyl y Tân. Amheuthun o beth ydyw cael symlrwydd amcan, fel yr eiddo Carita a'i thad, wedi cymhlethdod a gor-wybodusrwydd llawer o gymeriadau nofelau cyfoes, — fel gwrando ar hen bennill (telyn) wedi syrffed o awdlau hirwyntog. Ar y cyfan, y mae'r iaith yr hyn a ddisgwylir mewn llythyr gan gyn-fyfyriwr coleg, er bod ambell ymadrodd flodeuog anghyffredin yn ymddangos 'nawr ac yn y man, megis "arail eu preiddiau," ochr yn ochr â "saff" a "thendans." Ac ni ddylai'r myfyrwyr ddefnyddio'r rhagenw personol mewnol yn anghywir fel yn "cynorthwyo'i thad," "sgrwbio'i dwylo." Diau fod rhoddi ymadroddion fel "taenu perarogl caredigrwydd" yng ngenau patri- arch o Roegwr a'i wyres yn gymorth i greu awyrgylch rhamantus, ond prin y soniai bachgen o filwr amdano ef ei hun yn "llesmeirio" gan ing, a chwyddedig braidd ydyw "Mi brofais innau drysor bodlonrwydd, ac o hyn allan nac erfyn arnaf ymado â hi." Eithr naturiol ddigon fyddai i fardd, ac hyd yn oed i ddyn cyffredin, wrth aros yn ei guddfan i danciau'r gelyn, sylwi ar y "glöyn byw yn agor ei esgyll amryliw," ac ar y crwban "yn ymlwybro'n bwyllog, amyneddgar ar draws" y ffordd. Trueni ei bod yn rhaid i Gwilym ymwadu â'i rieni a'i wlad er mwyn profi'r "bodlon- %rwydd"; daw iddo yntau, fel i Ddafydd, ei ysbeidiau o hiraeth wrth wrando ar "Gân y Pennaeth" — "O! bydd glaswellt dro* ein llwybrau i gyd, cyn delom i Gymru'n 61." Wedi gorffen y stori, a chau'r llyfr, erys heulwen eurfelyn haf, — onid "porffor des" Macedonia,­o hyd yn y meddwl, a'i liw cynnes yn adlewyrchu ar olygfa wen aeafol mis Mawrth yng Nghymru. Y mae glas golau, prydferth y cloriau ynghydâ'u llythrennau arian, a hyd yn oed gwawr felen y papur, yn addas iawn i ramant mor swynol. Coleg Llandrindod. TEGWEN CLEE.