Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOEDEN EIRIN, gan J. Gwilym Jones. Gwasg Gee. 1946. Tt. 71. 4/ Dyma un o'r llyírau mwyaf diddorol a gawsom yn Gymraeg ers blynyddoedd; y mae'n newydd, y mae'n feiddgar, y mae'n feddylgar, ac ôl ymboeni ar bob llinell a pharagraff. Y mae yma sgrifennu mor grefItus â dim a gawsom gan Kate Roberts, mor hyll â dim a gawsom gan Saunders Lewis, ac mor bryfoclyd a dadansoddol â dim a gawsom gan Kate Bosse-Griffith. Ond John Gwilym Jones sydd yma yn y storîau hyn, yn artist ar ei orau, a chanddo ei lais ei hun a'i ffordd ei hun; ac o ganlyniad, cawn waith ganddo na chawsom ei debyg yn Gymraeg hyd yn hyn. Y mae tuedd yma a thraw i roi chwistrelliad o'r sioclyd a'r slic yng nghorff ambell stori, megis ar waelod tudalen 60, ond y mae'r sioc mor hen fel nad yw'n fwy na chosiad ar asennau'r Cymry erbyn hyn. Ond anghofir popeth o'r fath yng ngwychter ambell gyffyrddiad fel, "Yr wyf yn ddwfn yn y rhych ac yn meddwl am bopeth yn nhermau rhagymadrodd a thri phen." (Y Briodas), er na theimlaf am y stori hon ei bod yn llwyddo fel y rhan fwyaf o'r lleill. Eto i gyd, rhagora ar Y Garnedd Uchaf; am honno, nid yw'n argyhoeddi o gwbl. Am y gweddill o storiau'r gyfrol, ni thybiaf y gellir eu canmol yn ormod, — ac nid yw'n debyg y gwneir! Yn wir, synnwn i ddim na welir yn y gwaith hwn ond "decadence" fel y gwelwyd ym mhryddest Kitchener Dav- ies yn ddiweddar. Pwysigrwydd "Y Goeden Eirin" fel "Ing Cenhedloedd" yn ein barddoniaeth yw ymboeni'r ddau artist i wneud eu cynnyrch yn waith ymennydd, yn ffrwyth myfyrdod a disgyblaeth. Gwahanol iawn yw canlyniadau myfyrdod y ddau; arweinir Kitchener Davies "at lan cadernid dogmau gras" ar ôl gadael Dr. Peate yn ei bwd yng nghwteri "decadence" yn yr adran gyntaf; arweinir John Gwilym Jones at y man He dywed Duw, "Bydded coeden eirin ym mhen draw gardd Llys Ynyr, rhwng y tÿ bach a'r wal." Yr wyf yn methu penderfynu a yw'n myned fawr pellach na hynny. Ond yr wyf yn fodlon credu, i bwrpas llenyddiaeth fawr, mai'r myfyrdod sy'n bwysig, yr egni meddwl yma. Ac fe gawn hyn yn gyson yng ngwaith J. Gwilym Jones yn y stor- ïau hyn. A dyna werth y gyfrol. Rhesolfen. RHYDWEN WILLIAMS. MELLTITH YR HAFOD, gan Sion Germin. Llyfrau Pawb, Dinbych. 1946. Tt. 64. 1/3. Pe holid yn unrhyw lyfrgell, gyhpeddus neu breifat, pa fath lyfrau sydd fwyaf poblog- aidd ar hyn o bryd, diau y deuai stor'iau dirgelwch neu arswyd yn uchel ar y rhestr. Am hynny, y mae ysgrifennu storiau o'r fath, a'u cyhoeddi, yn gyfraniad gwerthfawr i'n llenyddiaeth, nid oherwydd eu gwerth hanfodol yn gymaint â'u bod yn gyfrwng i bobl ifanc ac eraill ymgyfarwyddo â darllen llyfrau Cymraeg o bob math. Wedi hynny, digon hawdd fydd iddynt astudio gweithiau clasurol. Gwnaeth Gwasg Gee gymwynas â Chymry o bob oed drwy gyhoeddi deg ar hugain o lyfrau rhad yng nghyfres Llyfrau Pawb. A dyma "stori ddirgelwch" eto, neu'n hytrach stori arswyd, gan awdur "Cyflafan y Plas." Digwydd yr hanes dros y Nadolig, sef adeg a gysylltir yn gyffredin ag ysbrydion. Egyr y stori ddeuddydd cyn yr Wyl, a nyrs ifanc yn ei llety yng Nghaernarfon; yno daw llanc o wr bonheddig i geisio ganddi fynd gydag ef i ofalu am ei fodryb sydd yn wael mewn plasty unig yn y wlad. Yn y fan yma, methais â deall paham, ar farw ei mam, nad "oedd dim i Beti i'w wneud ond gadael yr ysbyty a dyfod i Gaernarfon i weithio fel nyrs breifat." Diffyg arall a'm trawodd oedd ei hagwedd fursennaidd tuag at Gwyn Morton pan ofyn iddi ddod gydag ef; nid merch ifanc yn chwarae ag ymgeisydd am ei ffafr ydyw, ond nyrs yn cael galwad at glaf, ac yn gwastraffu oriau o wasanaeth drwy fympwy hoedennaidd. Eto'n ddiweddarach, sonia wrth Miss Morton ei hun, "Eich gofal am y claf yn gyntaf ac yn olaf. Dyna fel y dysgwyd fi, ac erbyn hyn mae'n haws cadw at y drefn yna na'i thorri."