Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhyfedd i mi, hefyd, oedd bod Beti'n gallu gweld drwy ffenestr y bws "y pinaclau ys- gythrug a gcdai'n rhesi noethion o boptu'r ffordd" ar noson yn y gaeaf, pan oedd yn rhy dywyll iddi weled cledr ei llaw wedi myned allan i'r ffordd. Pan yw Beti'n teithio mewn bws o Gaernarfon, awgrymir dirgelwch gan agwedd un ac arall pan gyfeiria at Hafod y Barcud, ac wedyn ar yr heol pan ddiflanna dyn a hol- odd am y ffordd yno. Yn y "Bedol" lle'r aeth i ofyn am Gwyn Morton, disgrifir y ty fel un "yn llawn o ysbrydion a phobol ddim yn gall." Cychwyn Beti i'r Ue yng nghwmni hanner-lloerig byddar, a ffoi rhagddo mewn ar- swyd direswm. Gorffen ei thaith yng nghar Gwyn Morton a fu'n cyfarfod â'i ffrind, Dilys Henderson. Yn nes ymlaen, cofia Beti iddynt hwy ill dwy fod yn y Coleg yr un pryd â'i gilydd. (Sut, felly, yr aeth hi ei hun yn nyrs?). Bore drannoeth geill Beti chwerthin ar ben ei hymddygiad ei hun, a mwynhau'r olygfa fawreddog a geir o'r ffenestr. Ond, o dro i dro, fe'i hatgofir am y dirgelwch ynghylch y teulu; cynydda ei hymdeimlad brawychus o ryw drychineb sydd ar ddyfod, ac una natur, o ran golwg a sŵn, i ychwanegu at ei hanesmwythyd. Crëir awyrgylch briodol felly, ac yn ei ganol wraig wael a bachgen gwan, yr olaf o'r Mortoniaid, wedi meddwi ar harddwch gwraig ddigydwybod,-ar y Nadolig, adeg dyned- fennol i deulu Hafod y Barcud. Èr gwaetha' rhai anghysonderau a nodir, y mae'r stori'n un rwydd i'w darllen, a'i hiaith yn ddidramgwydd; y mae'n sicr o apelio at nifer o bobl a ofyn am ragor. TEGWEN CLEE. STRAEON PATAGONIA, gan R. Bryn Williams. Gwasg Aberystwyth. 1946. Tt. 105. 3/6. Pwy ohonom, a ninnau'n blant, a fethodd deimlo swyn a chyfaredd helyntion cyfrin a chyffrous Niño Diablo, na fu'n cyd-ladrata ceffylau ag ef, a gwrando ar hud ei storîau? Neu pwy a fethodd ddilyn trywydd yr Indiaid Cochion i ddirgelwch eu cyfrinleoedd, a darganfod yno eu cynllun mileinig i ymosod ar y menni diymadferth a ymlwybrai'n araf dros y paith, ac yna carlamu'n ôl dros wastadedd eang y 'pàmpas' i rybuddio cyfeillion, a hwythau'r Indiaid o fewn ergyd carreg o'n hôl. Naws felly sy'n perthyn i rai o "Straeon Patagonia,"«yn enwedig y stori yn nechrau'r llyfr am Negro, y ceffyl hardd, a fu'n gyfrwng i achub y plant rhag y 'Chilenos,' a'r stori yn niwedd ý gyfrol am y 'Baceano' a'r chwilio am aur ym mlaenau Dyffryn Cam- wy. Y mae gafael ynddynt, a chawn gipdrem ar ansawdd y wlad a'r ysbryd anturiaeth- us sy'n cyniwair ynddi. Gresyn na fuasai mwy o'r storiau hyn yn y gyfrol, oblegid wrth draethu'r rhain gwelir Mr. Bryn Williams ar ei fedrusaf. Yng nghanol y gyfrol ceir 'Atgofion Arloeswr' a chasgliad o 'Straeon Cyrnol Jones.' Y mae ansawdd y rhain yn wahanol, ond y maent yr un mor ddiddorol. Ar ddull ymddi- ddan rhwng ŵyres a'i thad y mae'r 'Atgofion.' Ceir ynddynt ychydig o hanes yr hwylio i'r Wladfa, y glanio yno, a'r modd y gwnaed ysgol o hen gaban llong; sut yr ysgrifen- nwyd y llyfrau darllen cyntaf a phwy a fu'n athrawon yno. Cawn syniad am bethau fel y maent heddiw o'u cymharu â'r dyddiau a fu, a theimlwn fod yr ŵyres fach yn perthyn i genhedlaeth a chanddi safonau pur wahanol i eiddo cenhedlaeth ei thaid, fel y dengys yr ymddiddan ar dudalen 46, sydd ag arwyddocad arbennig i ni yng Nghymru y dydd heddiw. Casgliad o hanesion yn codi o ddigwyddiadau yn y Wladfa yw 'Straeon Cyrnol Jones.' "Straeon Patagonia" ydynt mewn gwirionedd. Gwr o Flaenau Ffestiniog yw Cyrnol Jones, a chyhoeddwyd y straeon rai blynyddoedd yn ôl yng "Nghymru'r Plant." Y mae rhai o'r hanesion yn arbennig o ddiddorol, megis hanes Yr Hen Gantâr,' a wnâi ryw- beth ond i chwi ganu yn Gymraeg iddo, 'Hanes Llew Patagonia,' a'r stori am 'Y Dyn Gwyllt,' ond y mae defnydd bywyd ymhob un ohonynt. Efallai, ryw ddydd, y cawn dair cyfrol gan Mr. Bryn Williams-un o storiau fel 'Negro,' un o 'Atgofion' arloeswyr, ac un o 'Straeon Cymol Jones.' Yn y cyfamser caiff bawb ohonom, fawr a bach, flas anghyffredin wrth ddarllen y gyfrol ffres a diddorol hon. Y Bala. K. WALLW GYAW3.