Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFLWYNO RHYDWEN WILLIAMS: Bardd Coron Aberpennar. Dylanwadau: Ysgol Cadwgan, Gwenallt, Kitchener Davies, Llenor gwreiddiol er hynny; a phan na bo'n llenydda, hoff ganddo bregethu ac arlunio. TREBOR LLOYD EVANS: Gweinidog y Tabernacl, Treforus. Y capel hwn yw'r mwyaf sy gan Annibynwyr Cymru. Cyn mynd i Dreforus bu Mr. Evans yn weinidog ym Mhenygroes, Arfon, ac yn k Llywydd Undeb Efengylaidd Gogledd Cymru. Awdur traethawd arobryn ar Lewis Ed- wards, 'a pherthynas i Llwyd o'r Bryn. GEORGE DAVIES, Treorci: Dramäwr, awdur "Diffodd yr Haul" a gyhoeddwyd gan y Seiri Drama. Enillodd droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Tal, tenau, dwys, llawn cynlluniau. HARRI WILLIAMS: Yn Lerpwl y cafodd ei eni a'i fagu, yn Rhydychen ei addysgu; ond ymhlith Cymry'r lleoedd hyn y bu'n amlwg. Gweinidogaetha i'r Presbyteriaid yn Nhywyn. Mae'n ath- ronydd sydd hefyd yn llenor. Sgrifennodd i gylchgronau Cymru ar Berdyeff, John McMurray a phositifiaeth resymegol. J. M. EDWARDS: Mae ei gartref yn y Barri yn llawn o gadeiriau a choronau. Awdur "Cerddi Pum Mlynedd." Newydd gyhoeddi "Peiriannau a Cherddi Eraill." Mae ganddo ddiddordeb mawr yn Verhaeren ac Ernest Toller. G. J. ROBERTS: Offeiriad, bardd ac ysgrifwr. Ganwyd yn yr Afonwen, Sir Gaernarfon, ei addysgu yn Ysgol Sir Pwllheli a Choleg y Brifysgol, Bangor. Buddugol ar yr ysgrif yn Eistedd- fod Genedlaethol Hen Golwyn. Awdur "Coed Celyddon" ac "Wrth y Tân." Ficer Nantglyn yn Sir Ddinbych. IFOR O. HUWS: Gweinidog gyda'r Annibynwyr yn y Bala a chyn hynny yn Llundain. Gwr gradd ym Mhrifysgol Cymru. Enillodd y gamp ar y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Hen Golwyn 1941. Gwr hawddgar a doeth. HUW K. EVANS. Yn enedigol o Hen Golwyn. Ymuodd â'r lluoedd arfog yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu mor llwyddiannus nes ei ddyrchafu'n "acting-temporary Lance Corporal (unpaid)." Wedi gwneud y byd yn ddiogel i Ddemocratiaeth a Phrydain Fawr yn wlad deilwng i wroniaid fyw ynddi, fe ddychwelodd adref a gweld mai gwroniaid yn unig a fedrai fyw ynddi. Ymfudodd i Awstralia. Yno gweithiodd o bryd i'w gilydd fel labrwr, yn Ilwytho llongau, gwerthu sebon sent o ddrws i ddrws, heb sôn am chwilio am aur. Rhoes y gorau i'r ymchwil am gyfoeth a hapusrwydd ac aeth ymhen y rhawg yn athro ysgol. Blino ar Awstralia, a dyfod yn ôl i Gymru, ac ar hyn o bryd y mae'n ddarlith- ydd yn y Saesneg yng Nghoreg Technegol Sir Ddinbych yn Wrecsam. Gŵr gradd ym Mhrifysgol Sidney ac yn M.A. Lerpwl. Y mae'n cadw gwenyn. JOHN RODERICK REES: Ei eni a'i fagu ym Mhenuwch, canolbarth Sir Aberteifi. Addysgwyd yn ysgol elfennol Penuwch ac Ysgol Sir Tregaron. Bardd cadair Ysgol Sir Tregaron yn 1938. Buddugol ar yr ysgrif yng nghystadleuaeth "Y Cymro" yn 1938 i rai dan 18 oed. Etifeddodd oddi wrth ei dad a'i daid ei ddiddordeb yn y merlyn a'r cob Cymreig. Caru bywyd cefn gwlad Cymru, ei daear a'i thyddynnod. GWILYM PRYS DAVIES: Llanegryn, Tywyn a Cholég Aberystwyth. Yn y Llynges meistrolodd James Joyce a Saunders Lewis. Gwresog, tanllyd, hirwallt; un o olygyddion "Y Wawr." JOHN T. GREAVES: Sais a'i gartref yn Llundain. Dysgodd Gymraeg, Norwyeg, Swedeg, Rwseg, Almaen- eg. Cemegwr wrth ei alwedigaeth, graddiodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Bu'n aelod teyrngar o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym, a noddir pob mudiad Cymreig yn frwd ganddo.