Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pysgota Gan J. M. EDWARDS WRTH fwrw rhyw arolwg hamddenol fel hyn dros rai o nodweddion a phleserau celfyddyd y pysgotwr, cystal imi gyfaddef ar y dechrau nad wyf yn honni unrhyw fath o wybodaeth arbenig- wr yn y grefft ddiddorol hon. Yn wir, byddaf yn meddwl weithiau nad oes y fath beth ag arbenigo perffeithgwbl yn y gel- fyddyd yma, oherwydd dysgu y bydd dyn o hyd. Yr unig gymwysterau a feddaf i, neu gymhellion efallai, yw fy mod wedi cael fy magu yng ngolwg afon a gyfrifid yn weddol enwog am ei physgod,-nid ei bod yn y dosbarth cyntaf na'r ail o'ch afonydd pendefig- aidd yn hyn o beth. Hefyd, fy mod wedi treulio llawer o amser erioed ar hyd glan- nau ei dyfroedd, ac ynddynt,- yn gweithredu pob dyfais gyfreithlon (ac anghyfreithlon, weithiau, mae'n ddrwg gen i), i geisio glanio'r creaduriaid bach deniadol. Ac yn drydydd, fy mod i er yn llanc yn dioddef yn drwm oddi wrth yr ysf‘a,­canys dyna ydyw, ysfa, — a dim byd arall. Rhai o'r nentydd bychain a red yn herciog i lawr o fryniau Ceredigion oedd fy maes hela i gynt. Ac er fy mod i ar ôl hynny wedi pysgota afonydd ham- ddenol, mwy, y doldiroedd llydain, eto i gvd rhaid imi gyfaddef nad vw swyn eu glannau hyfryd-agored hwy i'w gymharu â cheulannau a throeon a drain a drysni nentydd y cymoedd cuJion. A phwy a wâd nad yw codi brithyll yn ddiogel, ie, a hyd yn oed chwilio amdano, ei demtio ddtylwn ddweud,-mewn lleoedd felly yn llawer mwy o orchest? Nid af i sôn rhyw lawer am driciau prentisaidd llencyndod wrth ymhél yn ddidrwydded â'r gwaith; yn unig ddweud fod gennym yr adeg honno ddau ddull o leiaf. Un ydoedd "dala â dwylo," fel y dywedem. Ganol haf byddem wrthi yn bracsan y pyllau, chwilio neu "swmpo," a bod yn llafar gywir, o dan y cerrig, estyn braich i'r bôn o dan geulan debygol, ond nid heb ias o ysgryd chwaith rhag ofn bod yn llechu yno un o'n dau elyn pennaf yr adeg honno, — naill ai lysyŵen neu lyg- oden ddvr, a'r Hall oedd "maglo," fel y galwem yr arferiad. Rhaid oedd i'r afon fod yn isel iawn a'r dwr yn glir cyn defn- yddio'r dull hwn. Clymid cwlwm rhedeg o weiren íelen, fain ar flaen gwialen a'i roi am ganol y brithyll yn ofalus pan saf- ai'n llonydd ar waelod pwll, ac yna ei dynnu'n sydyn i fyny tuag atom. Ond y gamp oedd ei gael i'r stad annaturiol honno o fod yn berffaith lonydd. Llygad da, braich stydi a digon o amynedd oedd amodau llwyddiant y dull hwn. Ond cyn hir, i ddysgu bod yn bysgotwr proffesedig, rhaid oedd cael gwialen iawn o'r siop, a lein a rîl a'r holl dacl. Mae'n rhaid nad oes neb dedwyddach ar wyneb daear na ph^gotwr newydd pan fo'i leis- ens yn ei boced a phermit y perchen tir yn ei amddiffyn. Gall herio wedyn bob ciper yn y wlad. Teimlad hyfryd yw gallu cyn- hyrchu o ryw du-fewnol boced eich slipyn papur o'r Post Offis, a gweld y siom ar wyneb swyddogol gwarchodwr yr afon. Nid oedd traddodiad y bluen yn rhyw gryf neilltuol yn ein hardal ni, oherwydd natur goediog glannau'r afon, mae'n debyg. Ond yr oedd yno uni­yr hen bostfeistr, yn bencampwr ami, ac edmyg- em ei fedr â rhyw eiddigedd distaw. Medrai daflu'r bluen ble mvnnai fel dewin, ei chwipio dan goed i fyny ac i lawr, a hydyn oed o fewn dwy fodfedd i'r drain tu draw i'r afon, a hynny'n